Newyddion S4C

Cyfleusterau chwaraeon newydd 'yn sicrhau gwell cyfleoedd' yng Nghwm Llynfi

ITV Cymru 02/11/2023

Cyfleusterau chwaraeon newydd 'yn sicrhau gwell cyfleoedd' yng Nghwm Llynfi

Mae cynlluniau ar gyfer cyfleusterau chwaraeon newydd mewn ysgol ym Maesteg yn gobeithio rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon yn lleol yn hytrach na “theimlo bod yn rhaid symud i ffwrdd am gyfleoedd well.”

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd wedi derbyn £155,000 o Gronfa Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru ar gyfer pafiliwn chwaraeon newydd, a gwaith adnewyddu i’r cyrtiau tennis a neuadd chwaraeon. 

Bydd £46 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion ledled Cymru rhwng 2023 a 2025 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau i wella seilwaith a chreu ysgolion bro.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru: “Mae ysgolion bro yn cysylltu teuluoedd, ysgolion a chymunedau â’i gilydd. Maent yn meithrin perthynas cryf â theuluoedd, yn cefnogi cymunedau lleol, ac yn gweithio'n agos â gwasanaethau cyhoeddus ehangach.”

Bydd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn defnyddio’r cyllid i wella eu cyfleusterau addysg gorfforol trwy ddymchwel ei hen bafiliwn i greu cawodydd ac ystafell newid newydd, stordy, a dosbarth newydd ar gyfer gwersi iechyd a lles.

Yn ogystal â hyn, bydd hen gyrtiau tennis yr ysgol yn cael eu hadnewyddu, gan olygu y bydd modd cynnig tennis ar y cwricwlwm am y tro cyntaf, a gwaith adnewyddu i oleuadau ac arwyneb y neuadd chwaraeon. 

'Cyfoethogi addysg'

Dywedodd Caryl James, Pennaeth Iechyd a Lles yr Ysgol: “Bydd y cyfleusterau yn cyfoethogi’r addysg rydyn ni’n rhoi i ddisgyblion, ond hefyd i’r gymuned leol fydd yn gallu dod i ddefnyddio’r cyfleusterau ffantastig yma yn y nosweithiau. 

“Ry’n gallu cynnig lot mwy o weithgareddau newydd a gwahanol iddyn nhw a jyst ardaloedd sydd yn mynd i’w gwneud nhw’n falch i fod ynddyn nhw, sy’n codi balchder ynddo’i hun a safleoedd ysgol, ond hefyd yn allgyrsiol hefyd. 

“Mae’n hollbwysig bod pob un yn cael cyfleoedd cyfartal a dylai neb fod dan anfantais diffyg cyllid oherwydd yr ardal neu’r cefndir maen nhw’n dod.”

Mae Miss James  yn ffyddiog bydd rhai o lwyddiannau’r gorffennol a’r cyfleusterau newydd yn galluogi i bobl ifanc yr ardal eu llawn botensial.

“Mae gennym ni gyn-ddisgyblion sydd wedi gwneud yn wych ar y llwyfannau chwaraeon fel Owen Watkin, a nawr Dewi Lake sy’n gapten ar Gymru mas yng Nghwpan y Byd. Mae'n bwysig i ddisgyblion gweld bod yna gyfle iddyn nhw gyrraedd y brig hefyd.

“Felly, mae hyn yn mynd i fod yn wych ym Mhen-y-Bont i roi mwy o cyfleoedd a’u cadw nhw yn yr ardal hefyd, i fedru gwneud chwaraeon yn lleol yn lle eu bod nhw’n teimlo bod rhaid iddyn nhw symud i ffwrdd i gael cyfleoedd gwell.”

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi rhaglenni allgymorth rhieni a chymunedol fel dosbarthiadau maeth a sgiliau, a sesiynau darllen i rieni a phlant.

Dywedodd Meurig Jones, pennaeth yr ysgol, y bydd y gyfleusterau’n galluogi mynediad at “gyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

“Mae gan yr ysgol berthynas agos â chlybiau chwaraeon lleol fydd i gyd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau hyn, gan sicrhau bod cyfleusterau rhagorol ar gael yng Nghwm Llynfi ac i'r Urdd gynnig cyfleoedd pellach drwy'r Gymraeg gyda'r nos ac yn ystod gwyliau'r ysgol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.