Cyngor yn ystyried codi tal am barcio ar y prom yn Aberystwyth

Cyngor yn ystyried codi tal am barcio ar y prom yn Aberystwyth
Mae Cyngor Ceredigion yn ystyried cynnig i godi tâl am barcio ar y prom yn Aberystwyth.
Mae’r syniad wedi cythruddo rhai busnesau, a phryder y byddai'n effeithio ar bobl leol yn bennaf, gan nad oes digon o lefydd parcio yn y dre.
Doedd Cyngor Ceredigion ddim am wneud sylw tan i drafodaethau pellach gael eu cynnal.
Yn ôl rhai busnesau, gallai codi tâl am barcio ar y prom gael effaith ar nifer y cwsmeriaid sy’n gwario’u harian yn y dref.
"Ni'n griw o 21 yn gweithio yma ar hyn o bryd" meddai Gareth Evans, rheolwr bwyty Baravin yn Aberystwyth.
"Mae mwyafrif y bobol yna yn gorfod dod mewn i'r gwaith mewn cerbyd bob dydd neu bob am yn ail ddydd, ac ma nhw'n cael trafferth parcio fel ma hi. I wedyn gorfod talu i ddod mewn i barcio er mwyn dod i'r gwaith, sai'n credu bod hwnna'n deg.
"Ar ben hynny wedyn, mae'r bobol sy'n dod atai fel cwsmeriaid, mae rhai pobol yn dod atai bob dydd am goffi bob bore. Eraill yn dod unwaith yr wythnos. Pwy bynnag yw'r cwsmeriaid hyn, ma' nhw'n mynd i ystyried bod rhaid iddyn nhw dalu am barcio ar ben dod ato ni.
"Chi'n gwybod, i rai pobol dyw e ddim yn rhywbeth ma nhw'n gallu neud bob dydd i ddod i ymweld â lle fel ni. Mae'n treat."
'Syniad ddim yn un dwl'
Ar hyn o bryd mae modd parcio yn rhad ac am ddim ar y promenâd yn Aberystwyth, gyda rhai mannau am hyd at awr yn unig, eraill am ddwy awr.
Y prif bryder o godi tâl am barcio yw y byddai'n effeitho'n bennaf ar bobl sy'n byw mewn tai a fflatiau yn y cyffiniau.
Mae’r Cynghorydd Alun Williams yn cynrychioli ward Morfa a Glais, sy’n cynnwys rhan o’r prom yn Aberystwyth: "Mae'n rhaid i unrhyw gynnig ar gyfer codi tâl am barcio ar y prom edrych ar drwyddedau parcio am ddim i bobol sy'n byw ar y stryd" meddai.
"Serch hynny dyw'r syniad ddim yn un dwl, o leia parcio tymhorol."
'Ddim yn poeni llawer'
Ond mae Richard Griffiths, perchennog gwesty'r Richmond ar y prom o'r farn y byddai codi tâl am barcio yn cael fawr o effaith.
"I bobol sy'n dod i Aberystwyth, ni'n gofyn am bobol sydd efo bach o arian i wario. Dyw rheini ddim yn poeni rhyw lawer [am dalu i barcio]. Dod mewn a ansawdd uchel o tourist da ni mo'yn a bydd dim effaith arnyn nhw o gwbwl."
Cymysg oedd y farn ar y prom ei hun.
"Fi ddim yn credu ddylse nhw chargo" meddai Gwenda Morgan oedd yn cerdded ar y prom. "Ni ddim yn cael dim byd arall, dim ond y parco. A lle ma' pawb yn mynd i barcio? Does unman i gael yn y dre i bobol i barcio."
"Mae e'n mynd a'r flexibility o just gallu jwmpo yn y car a dod lawr a mynd am wac ar y prom reli. Just trist na gyd fi'n teimlo" oedd barn Nia Jones.
Doedd Cyngor Ceredigion ddim am wneud sylw cyn trafodaeth bellach ar yr opsiynau o godi tâl am barcio ar y prom yn Aberystwyth.