Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth wrth herio Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd Merched UEFA
Mae Cymru yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd Merched UEFA wedi iddynt golli eu tair gêm agoriadol.
Bydd tîm Gemma Grainger yn gobeithio dod a'r rhediad hynny i ben pan fyddent yn herio Denmarc yn Stadiwm Viborg nos Fawrth.
Collodd Cymru 5-1 yn erbyn Yr Almaen ar ddydd Gwener 27 Hydref, gan olygu eu bod nhw wedi colli pob un o'u gemau yn y gystadleuaeth hyd yma.
Maen nhw ar waelod eu grŵp gyda Gwlad yr Ia yn drydydd, Yr Almaen yn ail a Denmarc ar y brig.
Collodd o bum gôl i un oedd hanes Cymru yn erbyn Denmarc y tro diwethaf i'r ddau dîm cwrdd hefyd, yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Medi.
Ni fydd Ceri Holland a Hannah Cain, a chwaraeodd yn erbyn Yr Almaen ar gael ar gyfer y gêm oherwydd anafiadau.
Bydd dwy gêm olaf y gystadleuaeth ym mis Rhagfyr.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru