Newyddion S4C

Keir Starmer wedi rhoi 'camargraff' am ei gyfarfod â'r gymuned Fwslemaidd Gymreig

25/10/2023
starmer

Mae'r arweinydd Llafur wedi cael ei gyhuddo o roi "camargraff " am natur ei gyfarfod gydag arweinwyr Mwslemaidd yng Nghaerdydd dros y Sul, wrth i rai aelodau o'i blaid gael eu corddi gan safbwynt Syr Keir Starmer ar y rhyfel rhwng Israel a Hamas.   

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi yn hwyr nos Fawrth, mae Canolfan Islamaidd De Cymru yn ymddiheuro am achosi "loes a dryswch" drwy wahodd Syr Keir Starmer i'r ganolfan.       

Ar ôl ymweld â'r ganolfan ddydd Sul, fe gyhoeddodd yr arweinydd Llafur luniau ohono yn cwrdd ag aelodau o'r gymuned leol yng Nghaerdydd. 

Mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol X, dywedodd: "Roeddwn i'n falch o glywed gan y gymuned Fwslemaidd yng Nghanolfan Islamaidd De Cymru  

“Fe wnes i ailadrodd ein galwadau ar i wystlon gael eu rhyddhau, mwy o gymorth dyngarol i gyrraedd Gaza, ar i ddŵr a phŵer gael ei ail danio, a ffocws o'r newydd ar ddatrys y sefyllfa.”

Ychwanegodd ei fod wedi cael “ei gwestiynu gan aelodau” ac wedi “gwneud yn glir, nad fy marn nawr nac ar unrhyw adeg yw y dylai Israel gael yr hawl i dorri cyflenwadau dŵr, bwyd, tanwydd neu feddyginiaeth. Mae'n rhaid dilyn cyfraith ryngwladol."    

Mae Syr Keir wedi cael ei feirniadu gan aelodau Mwslemaidd ac aelodau adain chwaith am ei sylwadau blaenorol ar Israel, ar ôl iddi ymddangos iddo awgrymu mewn cyfweliad ar orsaf LBC fod gan Israel "yr hawl" i dorri cyflenwadau pŵer a dŵr.

"Camliwio ein cymuned a natur yr ymweliad"

Ers hynny, mae'r arweinydd Llafur wedi gwadu iddo gefnogi ar unrhyw adeg weithredoedd Israel, wrth atal cymorth dyngarol rhag cyrraedd Palesteiniaid yn Gaza.   

Mewn datganiad, dywedodd Canolfan Islamaidd De Cymru: “Ry'n ni'n dymuno pwysleisio fod neges cyfrwng cymdeithasol Keir Starmer a'r lluniau yn camliwio ein cymuned a natur yr ymweliad."    

“Ry'n ni'n cadarnhau yr angen am Balesteina rydd" 

Ychwanegodd y ganolfan eu bod yn dymuno “ymddiheuro am y loes a'r dryswch y mae'r ymweliad wedi ei achosi."  

 “Ein bwriad oedd codi pryderon y gymuned Fwslemaidd am ddioddefaint y Palesteiniaid, ac felly, fe wnaethom gynnal digwyddiad gyda chynrychiolwyr lleol yn y man cyntaf, ac fe gawsom wybod ar fyr rybudd y byddai Keir Starmer yn bresennol. 

“Fe fuodd yna drafodaeth rymus a di flewyn ar dafod a oedd yn adlewyrchu teimladau cymunedau Mwslemaidd ar hyn o bryd. Fe heriodd aelodau'r gymuned Keir yn uniongyrchol yn sgil ei ddatganiadau ar hawl Llywodraeth Israel i atal bwyd, trydan a dŵr rhag cyrraedd Gaza, gan gyfeirio at droseddau rhyfel, a'i anallu e i alw am gadoediad ar unwaith ." 

Wrth i'r ffrae gorddi, mae un o weinidogion yr wrthblaid Darren Jones wedi cadarnhau y bydd Syr Keir Starmer yn cynnal “cyfarfod arferol” gydag Aelodau Seneddol Llafur i drafod safiad y blaid ar y sefyllfa yn Israel a Gaza.

Mae disgwyl i'r arweinydd Llafur a'i ddirprwy Angela Rayner gwrdd ag Aelodau Seneddol Mwslemaidd ag arglwyddi yn ddiweddarach ddydd Mercher. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.