Cyn-amddiffynnwr Cymru, Paul Bodin, wedi cael diagnosis canser y prostad
Mae cyn-amddiffynnwr Cymru, Paul Bodin, wedi datgelu ei fod wedi cael diagnosis canser y prostad.
Cafodd y cyn bêl-droediwr 59 oed, y diagnosis ychydig wythnosau yn ôl.
Enillodd Paul Bodin 23 o gapiau dros Gymru rhwng 1990-1994, a chwaraeodd dros Swindon Town rhwng 1988-91 a 1992-96.
Roedd yn hyfforddwr tîm dan 21 Cymru cyn gadael y rôl ym mis Gorffennaf 2022.
Mewn cyfweliad â BBC Radio Wiltshire, dywedodd: "Mae'n anodd siarad amdano. Ond mae'n rhywbeth dwi'n meddwl sydd yn rhaid ei wneud i gyfleu'r neges."
“Bob blwyddyn rydw i wedi bod yn cael prawf PSA [antigen prostad-benodol] blynyddol,
"Ac nôl ym mis Ebrill fe ddaeth yn amlwg ei fod ychydig yn uwch nag y dylai fod. Cefais fy ail-brofi ac roedd popeth yn iawn. Es i yn ôl ddiwedd mis Awst ac roedd yn eithaf uchel eto.
“Fe wnaeth y feddygfa leol fy anfon am sgan, ac yn anffodus dangosodd fod y prostad wedi chwyddo a bod siawns dda mai canser oedd e.
"Felly roedd yn rhaid cael biopsi. Ac wrth gwrs gydol yr amser hyn, rydych chi'n aros ac mae pob math o bethau'n mynd trwy'ch meddwl, ond rydych chi bob amser yn meddwl - nid fi.
"Ond yn yr achos hwn profodd y biopsi ei fod yn ganser. Ond cefais fy nghyfarfod ddydd Llun diwethaf ac roedd y prognosis yn dda, mae modd ei dynnu oddi yno, a hefyd ei drin."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi nodi ei bod yn "drist" clywed am ddiagnosis canser Paul Bodin.
"Mae yna newyddion positif bod modd trin y canser a dymunwn y gorau i Paul a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn," meddai'r neges.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru