Cynllun i godi mast ffôn 5G ar wersyll gwyliau yng Ngheredigion, wedi’i dynnu’n ôl
Mae cynlluniau dadleuol i godi mast ffôn 5G ar un o wersylloedd gwyliau mwyaf Ceredigion wedi eu tynnu'n ôl.
Roedd Freshwave Facilities Limited eisiau codi mast ac antena ategol 23.14metr o uchder, i roi hwb i signal Vodafone, ym Mharc Gwyliau Quay West, Cei Newydd.
Cafodd 73 o wrthwynebiadau eu cyflwyno yn erbyn y cynlluniau.
Yn ôl yr asiant Rapleys, byddai’r mast yn rhoi hwb i’r signal yn y maes carafanau ac yn caniatáu darpariaeth barhaus o gysylltiadau symudol 3G a 4G i’r ardal gyfagos.
Byddai hefyd yn darparu gwasanaethau 5G gwell i Vodafone, gan gyflwyno cysylltedd symudol cyflym iawn, yn ôl yr asiant.
Yn ogystal â thrigolion lleol, roedd Cyngor Tref Cei Newydd hefyd yn gwrthwynebu lleoliad a maint y mast, oherwydd ei fod nepell o gartrefi cyfagos a'i leoliad mewn Ardal Tirwedd Arbennig. Roedd y cyngor o'r farn nad oedd y mast o fudd i'r gymuned ond yn hytrach i ddefnyddwyr y parc yn unig.
Cafodd pedwar sylw ei wneud yn cefnogi'r cynlluniau gan ddweud y byddai'r mast yn gwella derbyniad ffôn.
Ar ôl derbyn adroddiad cynllunio a oedd yn argymell gwrthod y cais, cadarnhaodd yr asiant eu bod yn dymuno tynnu’r cynlluniau yn ôl.
“Mae effaith y datblygiad ar breswylwyr cyfagos yn ddofn oherwydd nifer y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i’r cais,” meddai’r adroddiad.
Llun: LDRS