Newyddion S4C

Atgyfodi traddodiad Cymreig y Tŷ Unnos er mwyn cynnig sgiliau i bobl ifanc

Atgyfodi traddodiad Cymreig y Tŷ Unnos er mwyn cynnig sgiliau i bobl ifanc

Mae grŵp ym Mhontypridd wedi atgyfodi hen draddodiad Cymreig y Tŷ Unnos er mwyn cynnig sgiliau newydd i bobl ifanc.

Yn ôl y gred chwedlonol roedd modd i unrhyw un a oedd yn codi tŷ a oedd â mwg yn dod allan o’r simnai erbyn y bore ar dir comin yr hawl i fyw yno.

Roedd gyda nhw hefyd hawl i’r tir mor bell ag oedden nhw’n gallu taflu bwyell o’r tŷ.

Nos Wener fe wnaeth grŵp o bobl ifanc adeiladu tŷ ar dir comin Coedpenmaen, fydd yn sefyll dros dro tan nos Sadwrn. 

Pwrpas y prosiect, medden nhw, fydd rhoi cymorth i bobl ifanc i ddatblygu nifer gwahanol o sgiliau o fewn y diwylliant celfyddydol.

Y nod hefyd fydd sbarduno sgyrsiau am hunaniaeth, diwylliant a materion cyfoes. 

Dywedodd Luci a Seren, gweithwyr celf ifanc o Citrus Arts bod y sgiliau maen nhw yn dysgu wrth wneud y prosiect “ddim yn just helpu ni yn y prosiect, mae’n helpu ni yn y dyfodol hefyd”.

“Mae’n dangos lot o lwybrau gwahanol.” 

Dywedodd Luci, “Un o’r rhesymau’r holl prosiect yw i cynnal sgwrs, a siarad am broblemau cartrefi yng Nghymru.

“A fi fel pobl ifanc yn sylweddoli pa mor anodd mae yn.”

‘Hwyl’

Citrus Arts, o Bontypridd fu’n cefnogi tîm o weithwyr celf ifanc i greu eu Tŷ Unnos eu hunain.

Mae’n rhan o raglen o ddigwyddiadau cymunedol, dosbarthiadau, gweithdai a pherfformiadau gan Citrus Arts sy’n seiliedig ar y thema CARTREF, gan ddod â’u cymuned, sef Pontypridd a Rhondda Cynon Taf at ei gilydd.

Mae’r gweithwyr celf yn bobl ifanc rhwng 18-30 mlwydd oed o bob rhan o Gymru, sydd wedi cael rhyw faint neu ychydig iawn o brofiad o weithio yn y diwydiant celfyddydol a diwylliannol ac sydd wedi wynebu llawer o rwystrau i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Dywedodd Bridie Doyle James,  Cyd-Cyfarwyddwr Citrus Arts, bod y prosiect yn edrych ar “beth mae cartref yn meddwl i ni, ac i’n cymuned ym Mhontypridd”.

“Mae pobl ifanc ni wedi bod yn gweithio yn really galed dros y cwpwl wythnosau diwethaf, a ni just yn cael lot o hwyl o redeg pethau i’n gymuned ni ac efo ein cymuned ni.”

Llwyddodd Citrus Arts i ennill rywfaint o nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru am y tair blynedd nesaf. 

Ychwanegodd Bridie Doyle James: “Rydyn ni’n really, really hapus i glywed hynny.

“Byddwn ni’n gallu gwneud lot mwy i roi cymorth i ein pobol; ein freelancers, pobl ifanc a’r tîm bach sydd gyda ni.”

“Ni eisiau rhoi nôl i’n gymuned ni, a helpu pobol ifanc cael cyfleoedd i ymarfer a thrio pethau.

“Does dim llawr o sgiliau fel hyn o gwmpas, felly mae’n really bwysig i ni i ddysgu pobl ifanc sydd yn awyddus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.