
Bryan ‘Yogi’ Davies: 'Dwi'n cario enw dad ymlaen wrth chwarae rygbi'
Bryan ‘Yogi’ Davies: 'Dwi'n cario enw dad ymlaen wrth chwarae rygbi'
Mae merch Bryan ‘Yogi’ Davies, chwaraewr rygbi adnabyddus o'r Bala wedi dweud bod marwolaeth ei thad wedi damwain ar gae rygbi wedi achosi iddi gael perthynas gymhleth gyda'r gamp i ddechrau.
Fe wnaeth tad Teleri Davies ddioddef anafiadau difrifol mewn gêm rygbi yn Ebrill 2007, gan ei adael wedi ei barlysu o’i wddf i lawr.
Bu farw chwe blynedd yn ddiweddarach yn 2013.
“Oedd genno' fi gas deimlad tuag at rygbi, ac oni reit chwerw oherwydd be oedd wedi digwydd”, meddai Teleri Davies wrth siarad yn y rhaglen Rycia o ‘Ma ar S4C.
“Pan o’n i yn naw oed gath dad ddamwain rygbi, oedd o’n chwarae yn y rheng flaen a'r diwrnod yna nath o gyhoeddi mai hwnna oedd y gêm olaf oedd o am chwarae i Bala.
“Scrum cyntaf y gêm a nath o golapsio a gaeth gwddw dad ei wasgu, ac o’r diwrnod yna ymlaen gath o’i adael wedi ei barlysu o’r gwddw i lawr ac ar beiriant anadlu a nath o fyth gerdded, symud ei freichiau, symud dim byd ond ei ben o’r diwrnod yna ymlaen.”

Erbyn hyn mae Teleri, sydd wedi chwarae bedair gwaith dros dîm cenedlaethol Cymru yn y gorffennol, yn aelod o glwb rygbi Caernarfon.
Mae hi’n dweud ei bod falch o “gario enw ei thad ymlaen” ond mae’r gamp hefyd yn dod a llawer o atgofion yn nôl.
“Mae o yn drist achos dwi’n gwybod os fysa dad yn fyw ‘sa fo wedi dod i bob un gêm, hyd yn oed ar ôl damwain o ‘sa fo di fforshio fo’i hun i godi o gwely a mynd mewn i’r gadair.
"Fysa fo di fforshio’r carers deud; ‘Da ni’n mynd i weld Teleri heddiw dim otch pa mor sâl ydw i’.”
“Pan dwi ar y cae rygbi, cwbl dwi yn glywed ydi dad yn gefn pen fi, yn deud; ‘Cau o lawr, tacla hi’n galed, paid â gadael iddi fynd trwydda ti’, ac wedyn pan dwi efo’r bêl y cwbl dwi’n clywed ydi dad yn deud ‘dropia dy height wan, sticia dy law allan.’”

Roedd tad Teleri yn caru rygbi, ac mae hi’n rhannu'r un angerdd.
“Nes i sylweddoli bod hi’n amser i fi afael yn rygbi eto, a chymryd o ychydig bach o ddifri. Yn fwy 'na dim byd i gario enw dad ymlaen a chwarae er mwyn fo. Ond erbyn diwedd nes i fwynhau o gymaint o’n i’n chwarae fo er mwyn fi’n hun.
“Oedd genno' fi'r cas deimlad yma tuag at rygbi, ac oni reit chwerw oherwydd be oedd wedi digwydd ond wedyn pan o’n i yn fy arddegau nes i ofyn i dad; ‘Os fysa ti’n cael un diwrnod i fyw bywyd hollol normal eto, be fysa ti’n neud?’ Ac yr ateb oedd ‘swni’n treulio’r diwrnod yn chwarae rygbi’.”
Mae’r teulu wedi cadw esgidiau rygbi Bryan, ac mae’n atgof o’r gamp sydd mor ganolog i fywyd y teulu.

“Hein oedd o yn gwisgo yn ystod ei gêm olaf o pan gath o’r ddamwain, oeddo’n gwrthod prynu rhai newydd so oedd o yn tapio nhw so erbyn diwedd oedd o yn gwisgo tap a doedd ‘na ddim boots ar ôl.
“Nes i erioed meddwl byswn ni’n upsetio yn gweld nhw, dio ddim yn golygu dim byd i neb arall ond mae o yn golygu lot i fi, Ilan fy mrawd a mam.”
Mae modd gwylio Rycia o ‘Ma ar S4C Clic.