Neighbours: Y gyfres boblogaidd o Awstralia yn dychwelyd i’r sgrin
Mae’r gyfres boblogaidd o Awstralia, Neighbours, wedi dychwelyd i’r sgrin unwaith eto ddydd Llun.
Fe gafodd "pennod olaf" y rhaglen fyd-enwog ei ddarlledu'r llynedd, wedi i'r gyfres gael ei ganslo gan Channel 5 yn sgil diffyg cyllid.
Ond fe fydd yn dychwelyd i’r sgrin unwaith eto ddydd Llun, a hynny wedi iddi gael ei hachub gan Amazon er mwyn ei ffrydio ar Freevee.
Mae Neighbours wedi dilyn hynt a helynt sawl cymeriad o Erinsborough, sef maestref ffuglennol ym Melbourne, ers 1985.
Eleni, bydd yr actores Brydeinig Misha Barton yn ymuno a’r gyfres, a hithau’n enwog am ei rôl yn y gyfres Americanaidd The OC.
Ond bydd sawl wyneb adnabyddus hefyd yn dychwelyd, gyda’r bennod ddiweddaraf yn dilyn perthynas Mike Young a Jane Harris – yr actorion Guy Pearce ac Annie Jones.
Bydd Karl Kennedy (Alan Fletcher) a’i wraig Susan (Jackie Woodburne) hefyd i’w gweld yn y bennod gyntaf, a hynny ochr yn ochr â chymeriad Harold Bishop (Ian Smith) sydd bellach wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Ramsay Street.
Bydd penodau newydd dyddiol ar Freevee yn y DU a’r UDA o ddydd Llun i ddydd Iau.
Llun: PA Picture Desk.