Russell Brand yn perfformio'n Llundain wedi honiadau o ymosodiadau rhyw ymddangos amdano
Fe wnaeth Russell Brand ymddangos yn fyw ar lwyfan yn Llundain nos Sadwrn, oriau ar ôl cael ei gyhuddo’n gyhoeddus o dreisio, cyflawni ymosodiadau rhyw a chamdriniaeth emosiynol yn ystod cyfnod o saith mlynedd.
Dywedodd wrth y gynulleidfa yn ystod y perfformiad “fod yna rai pethau na allai eu trafod”.
Fe wnaeth y digrifwr gyrraedd mewn Mercedes du 46 munud yn hwyr i’r gig orlawn yn theatr y Troubadour yn Wembley Park nos Sadwrn.
Mae pedair dynes wedi honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhyw rhwng 2006 a 2013, pan oedd gyrfa Brand ei yn anterth ac yntau'n gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.
Mae hefyd yn wynebu honiadau o ymddygiad o reolaeth, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a rhaglen Dispatches ar Channel 4.
Mae Mr Brand yn gwadu’r honiadau’n chwyrn ac mewn fideo a bostiwyd ar-lein ddydd Gwener, dywedodd fod ei holl berthnasoedd wedi bod yn gydsyniol, cyn cyhuddo’r cyfryngau o “ymosodiad cydgysylltiedig”.
This is happening pic.twitter.com/N8zIKLbJN2
— Russell Brand (@rustyrockets) September 15, 2023
Dywedodd Mr Brand, 48 oed: "Rwyf wedi derbyn dau lythyr neu lythyr ac e-bost hynod annifyr. Un gan gwmni teledu, ac un gan bapur newydd yn rhestru trwch o ymosodiadau hynod ymosodol.
“Ond ynghanol y restr yma o ymosodiadau rhyfeddol, mae rhai honiadau difrifol iawn sydd ddim yn wir.”
Beth yw’r honiadau?
Mae nifer o fenywod wedi gwneud honiadau yn erbyn Mr Brand:
Mae un menyw yn honni bod Mr Brand wedi ei threisio yn erbyn wal yn ei gartref yn Los Angeles. Cafodd driniaeth mewn canolfan argyfwng trais rhywiol ar yr un diwrnod. Dywed y Times ei fod wedi gweld cofnodion meddygol i gefnogi hyn
Mae ail ddynes yn honni i Mr Brand ymosod arni pan oedd yn ei 30au cynnar a'i bod hi yn 16 oed ac yn dal yn yr ysgol. Mae hi’n honni iddo gyfeirio ati fel "plentyn" yn ystod y berthynas.
Mae trydedd ddynes yn honni bod Mr Brand wedi ymosod yn rhywiol arni tra roedd hi’n gweithio gydag ef yn Los Angeles, a’i fod yn bygwth cymryd camau cyfreithiol pe bai’n dweud wrth unrhyw un arall am ei honiad
Honnodd y pedwaredd dynes iddi gael ei hymosod yn rhywiol gan Mr Brand a'i fod yn ei chamdrin gorfforol ac yn emosiynol.