Newyddion S4C

Russell Brand yn wynebu honiadau o dreisio, cyflawni ymosodiadau rhyw a chamdriniaeth emosiynol

16/09/2023
S4C

Mae’r actor a’r digrifwr Russell Brand yn wynebu honiadau o dreisio, cyflawni ymosodiadau rhyw a chamdriniaeth emosiynol yn ystod cyfnod o saith mlynedd.

Mae pedair dynes wedi honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhyw rhwng 2006 a 2013, pan oedd gyrfa Brand ei yn anterth ac yntau'n gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.

Mae hefyd yn wynebu honiadau o ymddygiad o reolaeth, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a rhaglen Dispatches ar Channel 4.

Mae Mr Brand yn gwadu’r honiadau’n chwyrn ac mewn fideo a bostiwyd ar-lein ddydd Gwener, dywedodd fod ei holl berthnasoedd wedi bod yn gydsyniol, cyn cyhuddo’r cyfryngau o “ymosodiad cydgysylltiedig”.

'Ymosodol'

Dywedodd Mr Brand, 48 oed: "Rwyf wedi derbyn dau lythyr neu lythyr ac e-bost hynod annifyr. Un gan gwmni teledu, ac un gan bapur newydd yn rhestru trwch o ymosodiadau hynod ymosodol.

“Ond ynghanol y restr yma o ymosodiadau rhyfeddol, mae rhai honiadau difrifol iawn sydd ddim yn wir.

"Mae'r honiadau hyn yn ymwneud â'r amser pan oeddwn i'n gweithio yn y brif ffrwd, pan oeddwn yn y papurau newydd drwy'r amser, pan oeddwn mewn ffilmiau.”

Fe aeth Mr Brand ymlaen i ddweud: "Dydw i ddim eisiau mynd i mewn i hyn ymhellach oherwydd natur ddifrifol yr honiadau, ond rwy'n teimlo fy mod yn darged ymosodiad ac mae'n amlwg eu bod yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd.

“Rydym yn amlwg yn mynd i ymchwilio i'r mater hwn achos mae'n ddifrifol iawn, iawn. Yn y cyfamser, rydw i eisiau i chi aros yn agos, aros yn effro, ond yn bwysicach na dim, arhoswch yn rhydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.