Natasha Harding yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol
Mae Natasha harding wedi cyhoeddi ei bod yn yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol.
Chwaraeodd Harding 100 o weithiau i Gymru gan sgorio 26 gôl yn ystod ei gyrfa broffesiynol.
Roedd wedi chwarae yn safle'r ymosodwr i glybiau Caerdydd, Reading, Aston Villa, Manchester City a Lerpwl yn ystod ei gyrfa ddisglair.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, dywedodd mai dyma oedd yr amser i roi'r gorau i chwarae'n broffesiynol.
"Mae pêl-droed wedi rhoi cymaint o gyfleoedd, cyfeillgarwch, profiadau bywyd a llawer mwy i mi.
"Rydw i eisiau diolch i'r holl reolwyr rydw i wedi gweithio gyda nhw ar hyd y ffordd. Fe wnaethoch chi i gyd chwarae rhan yn y chwaraewr rydw i heddiw.
“Rwyf am ddiolch i Uwch Gynghrair y Merched am ganiatáu i’r merched gwallgof hyn o Gymru fod yn rhan o hanes. Mae wedi bod yn anrhydedd cael gwneud cymaint o ymddangosiadau a gweld y gynghrair hon yn tyfu cymaint," ychwanegodd Harding.
“I fy ffrindiau, fy nheulu ac yn enwedig fy mhartner, diolch i chi am yr aberthau rydych chi wedi'u gwneud dros y blynyddoedd nad ydyn nhw erioed wedi mynd heb i neb sylwi.
"Yn olaf i'r Wal Goch. Rydw i'n ddiolchgar am byth am eich cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd. Fe wnaethoch chi ei wneud yn hyd yn oed yn fwy arbennig bob tro y cefais y pleser o wisgo'r crys hwnnw (Cymru) cyhyd."