
Mike Phillips: 'Dubai yn lle arbennig ond hoffwn ddod nôl i Gymru yn y dyfodol'
Mike Phillips: 'Dubai yn lle arbennig ond hoffwn ddod nôl i Gymru yn y dyfodol'
“Y peth gore, mae dau grwt fi ‘di gael eu geni mas yna, so ma hwnna just mor arbennig i fi a’r wraig.”
Mae hi’n bum mlynedd ers i gyn-fewnwr tîm rygbi Cymru, Mike Phillips, wneud y penderfyniad mawr o symud i Dubai.
Cyn ymddeol yn 2017, roedd Phillips yn un o gymeriadau amlycaf y gamp.
Fe enillodd 99 cap rhyngwladol dros Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, a rhwng 2008 a 2013, roedd y mab fferm o Fancyfelin yn un o fewnwyr peryclaf y gamp.
Ers rhoi gorau i chwarae a symud i'r Emiradau Arabaidd Unedig gyda’i wraig, mae Mike wedi cadw’n brysur mewn sawl ffordd.

Mae wedi gweithio fel hyfforddwr rygbi gyda thimau a chwaraewyr yn Dubai, a hefyd sefydlu Academi Rygbi cyn i’r pandemig ddod â hynny i ben.
Erbyn hyn, mae’n gweithio fel sylwebydd teledu ar gemau rygbi ac mae'n gweithio’n achlysurol fel llysgennad i frandiau mawr. Mae hefyd yn serennu mewn cyfres deledu newydd S4C o’r enw Mike Phillips: Croeso i Dubai.
Ond mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C mae’n dweud mai magu ei ddau fab, Elias, sy’n bedair oed, a Zayn, sy’n ddwy oed, sydd yn ganolog i’w fywyd y dyddiau hyn.
“Y pethe gore am Dubai, mae dau grwt fi ‘di gael eu geni mas yna, so ma hwnna just mor arbennig a special i fi a’r wraig,” meddai.
“I fi’n bersonol, pan oni’n mynd i Dubai oni’n meddwl ‘brilliant’, oherwydd oedd ddim chwaraewr rygbi arall yna oedd di chwarae ar y safon uwch ac oedd siawns da fi fod yn wahanol. So oni’n meddwl mae'n rhaid i mi fynd mas yna a 'make it happen' math o beth, a dyna fi’n trio neud.

“Fi di trial un neu ddau o bethau, fi di trio dechrau lan ysgol rygbi, ond oedd Covid di dod a sa’i di seto fe lan eto ar ôl Covid.
“Felly ma un neu ddau o bethe di bod yn dda, rhai pethe ddim yn digwydd mas yn iawn ond dwi dal siŵr o fod yn trial ffeindio mas beth fi rili moyn wneud. Fi’n trial wneud lot o bethe a thrio cadw mynd fela rili.
“Am nawr, fi’n gweithio ar S4C nawr gyda Chwpan y Byd a fi’n joio ‘na.”
Colli Cymru a'r hiwmor
Rhwng gweithio ar gemau Cymru yng Nghwpan y Byd draw yn Ffrainc, bydd Mike yn dychwelyd i’w filltir sgwâr ym Mancyfelin, tra bod ei deulu yn Dubai.
MIKE PHILLIPS! 👏
— S4C Chwaraeon 🏴 (@S4Cchwaraeon) September 14, 2023
Does neb cweit fel @mikephillips009 😅
Talented, unique but most importantly...modest! 😉#RWC2023 | @Sarraelgan pic.twitter.com/Jw0N9nn5ws
Daeth Elias a Zayn i ymweld â’r ardal dros yr haf, ac mae Mike yn dweud y byddai o blaid dychwelyd i Gymru yn yr hir dymor – ond bod angen iddo ddwyn perswâd ar ei wraig yn gyntaf.
“Fi’n dwli dod nôl a dwi’n methu’r sbort a’r sense of humour mae ‘da pob un mas ‘ma. Bysen i’n symud nôl ond dim opsiwn i fi yw e, dewis y wraig yw e.
“Daeth y teulu draw yn yr haf, roedden nhw’n dwli dod lawr ‘ma yn yr haf, Folly Farm a lawr yn Tenby a phethe, oedd e’n brilliant.

“Ond fi’n siŵr y byddai nôl yn y dyfodol, ac mae wastad rhywbeth yn denu fi nôl ‘ma, ond fi yn licio mynd mas nôl i Dubai hefyd so ma hwnna’n dweud rhywbeth wrtha i hefyd.
“Mae’r plant yn enjoio fe yno, maen nhw’n wneud yn dda. Maen nhw’n ysgol nawr ac mae ffrindiau ‘da nhw, so mae bywyd eitha’ syml ‘da ni ond mae’n neis.
“Dyw e ddim fel mae pobol yn meddwl am Dubai - yr arian a phethau fel ‘na. Ni’n byw bywyd eitha’ syml – mynd i’r parc, mynd i’r ysgol bob dydd a pigo nhw lan, a chwarae ‘da’r plant a chwarae bach o golff hefyd rili.
“Mae e’n lle da i fagu plant, lle saff iawn, does 'na ddim unrhyw fath o crime neu dim byd fela.
“Mae’r bobol yn neis ac mae’n lle da i blant i fod tu fas yn chwarae. Mae digonedd o bethau maen nhw’n gallu gwneud a ni di enjoio fe mas draw ac mae e di bod yn eitha’ special i ni.”
Bydd y gyfres Mike Phillips: Croeso i Dubai yn parhau nos Fawrth 19 Medi am 21.00 ar S4C, ac ar alw ar S4C Clic.