Poundland yn prynu hyd at 71 o siopau Wilko
Mae perchennog siopau Poundland wedi cytuno i brynu hyd at 71 o ganghennau cwmni Wilko, wedi i'r cwmni fynd i'r wal.
Fe wnaeth cwmni Pepco daro bargen gyda’r gweinyddwyr PwC ddydd Mawrth er mwyn prynu nifer o'r siopau ar draws y DU.
Gyda disgwyl i gannoedd o bobl golli eu swyddi, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Poundland, Barry Williams, ei fod yn awyddus i sicrhau y bydd nifer o gyn-weithwyr Wilko yn ymuno â Poundland yn y safleoedd newydd.
“Dros yr wythnosau nesa mi fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda landlordiaid er mwyn sicrhau y gallwn agor siopau Poundland newydd.
“Unwaith bydd y broses honno wedi’i chwblhau, rydym am sicrhau y bydd nifer sylweddol o gyn-weithwyr Wilko yn ymuno â’n tîm ni yn Poundland.
“Mae gweithwyr Wilko wedi bod yn werthfawr iawn i gymunedau ledled y DU ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig cyfleodd er mwyn iddyn nhw ymuno â’n teulu,” meddai.
Daw’r cytundeb ddiwrnod yn unig ar ôl i’r gweinyddwyr gadarnhau y bydd pob un o weithwyr Wilko, gan gynnwys gweithwyr siopau a chanolfannau cymorth, yn colli eu swyddi.
Mae cwmni B&M eisoes wedi taro bargen i brynu hyd at 51 o safleoedd eraill Wilko hefyd.
Llun: Peter Byrne/PA Wire.