Penodi cyfarwyddwr newydd Mentrau Iaith Cymru
Myfanwy Jones o Sir Gaerfyrddin yw cyfarwyddwr newydd Mentrau Iaith Cymru.
Roedd yn arfer gweithio fel Swyddog Datblygu’r Gymraeg gyda Chyngor Sir Gâr.
Cafodd ei magu ym mhentref Lledrod, yng Ngheredigion, ac astudiodd Ffrangeg, Almaeneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, cyn gwneud doethuriaeth ym mhrifysgol Warwick.
Wrth gyhoeddi'r penodiad dywedodd Mentrau Iaith Cymru fod gan Myfanwy Jones brofiad cynllunio ieithyddol trwy ei gwaith i Fenter Iaith Abertawe, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a thrwy ei gwaith llawrydd yn y maes.
Ychwanegodd y sefydliad mai "datblygu strategaeth genedlaethol i’r Mentrau Iaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf, cefnogi a chynrychioli’r Mentrau Iaith a hyrwyddo eu gwaith fydd canolbwynt gwaith Myfanwy Jones."
22 Menter Iaith
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn cefnogi rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru trwy ddarparu cymorth marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a chyfleoedd i rannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith.
Dywedodd Myfanwy Jones: "Mae’r Mentrau Iaith yn arf hollbwysig yn ein hymdrechion i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at eu cefnogi a’u cynorthwyo i ddatblygu er budd y Gymraeg yn fy swydd fel cyfarwyddwr.
"Byddaf yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau a datblygu ymwybyddiaeth o waith y mentrau ar gychwyn y swydd bwysig hon."