Newyddion S4C

Cymru'n curo Ffiji mewn gêm gyffrous yng Nghwpan y Byd yn Bordeaux

10/09/2023
Cymru v Fiji

Fe enillodd Cymru eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd yn erbyn Ffiji o 32-26 yn Bordeaux nos Sul.

Cyn i’r gêm ddechrau fe wynebodd Cymru y Cibi sef her draddodiadol Ffiji i’w gwrthwynebwyr ac roedd Tywysog Cymru yn y stadiwm i gefnogi'r crysau cochion.

Fe ddechreuodd pethau’n dda i Gymru gyda chic gosb i’r maswr Dan Biggar ar ôl dwy funud wedi i Ffiji ddal gafael ar y bêl mewn tacl.

Llwyddodd Cymru i wrthsefyll pwysau ar y llinell gan Ffiji ac fe ddaeth cic gosb â’r cyfle i Gymru glirio.

Aeth pethau yn well fyth i Gymru yn fuan wedyn gyda’r asgellwr Josh Adams yn croesi am gais yn llydan yn dilyn rhediad gwych gan y canolwr George North.

Er na lwyddodd Biggar gyda’r trosiad roedd Cymru 8-0 ar y blaen.

Yna fe gafodd North ei ddal heb ryddhau’r bêl ond methodd Ffiji gyda’r ymgais am gic gosb.

Ond fe ddaeth cyfle i Ffiji wrth i’r capten a’r canolwr Waisea Nayacalevu redeg trwy amddiffyn gwan Cymru am gais gyda throsiad y mewnwr Frank Lomani yn dod â Ffiji o fewn pwynt i Gymru.

Fe dorrodd Ffiji drwyddo yn fuan wedyn gyda’r blaenasgellwr Lekima Tagitagivalu yn croesi ac fe osododd trosiad Lomani ei dîm ar y blaen ac yn sydyn roedd cysgod gêm 2007 yn dechrau symud dros y stadiwm.

Ar ôl cyfnod o reolaeth gan Ffiji fe lwyddodd Biggar gyda chic gosb i dawelu pethau ychydig i Gymru.

Daeth ail gais i Gymru gan North o dan y pyst ar ôl cyfnod o waith grymus gan y blaenwyr a gyda Biggar yn trosi roedd Cymru nôl ar y blaen 18-14.

Ond fe siglodd y pendil nôl tuag at Ffiji wrth i’r prop Luke Tagi groesi ond ni lwyddodd i ddal ei afael ar y bêl gan roi’r cyfle i Gymru glirio eto.

Fe lwyddodd Cymru i wrthsefyll Ffiji yn y munudau cyn yr egwyl gyda Biggar yn datgan ei anfodlonrwydd gydag iaith mor goch â'i grys tuag at ei gyd-chwaraewyr am geisio rhedeg y bêl o'r llinell gais yn hytrach na chicio dros yr ystlys i ddod â'r hanner i ben.

Sgôr hanner amser: Cymru 18-14 Ffiji.

Blaenoriaeth

Methodd Biggar gydag ymgais am gic gosb o fewn munud i’r ail hanner.

Daeth trydydd cais i Gymru gan yr asgellwr Louis Rees-Zammitt wrth i’r dyfarnwr chwarae’r rheol fantais.  Fe drosodd Biggar yn urddasol o’r ystlys i ymestyn blaenoriaeth Cymru i 25-14.

Wrth i Gymru edrych eu bod nhw’n rheoli’r gêm fe arweiniodd chwarae llac at gyfle i Ffiji osod pwysau ar linell gais Cymru.

Daeth dihangiad arall i Gymru wrth i Ffiji ollwng gafael ar y bêl wrth groesi.

Manteisiodd Cymru ar hyn ac ar ôl cic hir Biggar i lawr y cae, fe ildiodd Ffiji sawl cic gosb ac fe dderbyniodd y blaenasgellwr Tagitagivalu gerdyn melyn. Aeth Cymru at yr ystlys yn hytrach na'r pyst ac fe groesodd y bachwr Elliot Dee am gais gyda Biggar yn trosi eto i ymestyn blaenoriaeth Cymru eto.

Ond fe aeth Cymru i lawr i 14 dyn yn fuan wedyn hefyd pan dderbyniodd yr eilydd a'r prop Corey Domachowski gerdyn melyn.

Nid oedd Ffiji am ildo ag fe groesodd yr eilydd Josua Tuisova am gais arall iddyn nhw gyda saith munud i fynd wrth i'r maswr Tela drosi. Cymru 32-21 Ffiji, ac nid oedd pethau ar ben o bell ffordd.

Fe groesodd Ffiji llinell gais Cymru eto ond nid oedd y bêl wedi ei thirio yn iawn.

Roedd hyn yn gyfnod pryderus i Gymru wrth iddyn nhw orfod gwrthsefyll momentwm Ffiji yn y munudau olaf.

Nid oedd ymdrechion Cymru yn ddigon wrth i Ffiji groesi am gais arall gan y prop a'r eilydd Mesake Doge.

Er mawr ryddhad i gefnogwyr Cymru fe lwyddodd y crysau cochion i wrthsefyll ymdrechion eiliadau olaf Ffiji a chipio pwynt bonws.

Y sgôr terfynol: Cymru 32-26 Ffiji.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.