Bachgen 10 oed wedi marw ar ôl derbyn sioc drydanol mewn gwesty yn Blackpool
Mae bachgen 10 oed wedi marw ar ôl iddo dderbyn sioc drydanol mewn gwesty yn Blackpool, meddai’r heddlu.
Cafwyd hyd i’r bachgen am 22.39 nos Sul mewn gwesty ar y Promenâd yn y dref.
Bu farw ddydd Iau, meddai llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerhirfryn.
Roedd anafiadau’r plentyn yn rhai oedd yn awgrymu anaf “foltedd uchel o drydan”, ychwanegodd y llu.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn: “Yn anffodus mae bachgen wedi marw yn dilyn digwyddiad mewn gwesty yn Blackpool.
“Cawsom ein galw i’r Promenâd, Blackpool, am 22.39 ddydd Sul ar ôl derbyn adroddiadau bod bachgen 10 oed wedi’i ganfod yn anymatebol y tu mewn i westy.
“Cafodd ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau a oedd yn gyson â dod i gysylltiad â foltedd uchel o drydan ac yn drist iawn bu farw yn yr ysbyty ddoe.
“Roedd ei deulu wrth ei wely, ac mae ein meddyliau gyda nhw ar hyn o bryd.
“Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol gan yr heddlu mae’r mater hwn bellach wedi’i drosglwyddo i’r awdurdod lleol.
“Bydd ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer Crwner Ei Fawrhydi.”