Newyddion S4C

Teyrnged teulu i ddyn 32 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pont Cleddau

07/09/2023
MC

Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â bws ger Pont Cleddau, Doc Penfro, ddydd Mawrth yn dweud ei fod yn “cael ei garu gan bawb oedd yn ei gyfarfod ac yn ei adnabod”.

Bu farw Mathew Chapman, 32 oed, tra'n gyrru car oedd mewn gwrthdrawiad â bws ger y bont.

Roedd Mr Chapman, oedd yn wreiddiol o ardal Dunstable, wedi bod yn byw yn Sir Benfro yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae ei deulu wedi cyhoeddi datganiad o deyrnged iddo: “Mae Matt yn Fab, Brawd, dyweddi, ŵyr a ffrind i lawer.

“Roedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei gyfarfod ac yn ei adnabod.

“Rydym i gyd wedi ein syfrdanu ac wedi’n dryllio, a byddem yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon i geisio dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd.”

Mae'r teulu'n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Cafodd gyrrwr y bws anafiadau difrifol ac aethpwyd ag ef i'r ysbyty lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog.

Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.