Newyddion S4C

Pryder am y defnydd cynyddol o declynnau 'fêps' gan ddisgyblion ysgol

06/09/2023

Pryder am y defnydd cynyddol o declynnau 'fêps' gan ddisgyblion ysgol

Mae arolwg newydd yn awgrymu bod dwy ran o dair o ddisgyblion blwyddyn 10 sydd yn fêpio bob dydd yn dangos arwyddion o ddibyniaeth ar nicotin.

Roedd oddeutu 9-10% o ddisgyblion blwyddyn 10 yn fêpio bob dydd mewn tair ysgol oedd yn rhan o arolwg Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda dwy ran o dair o’r rheiny yn dangos arwyddion “cymedrol” neu “uchel” o ddibyniaeth ar nicotin. 

Daw’r ffigyrau yn dilyn arolwg o ddisgyblion ym mlynyddoedd saith a 10, a hynny o sampl fach o ysgolion uwchradd yng Nghymru. 

Yn ôl rhai penaethiaid ysgolion, mae’r defnydd o fêpio wedi dod yn broblem gynyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan arwain at broblemau ymddygiad.

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf mae cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n cael eu gwahardd o ysgolion yn sgil eu defnydd, dywedodd arweinwyr ysgolion.

Er nad yw’n bosib gwybod pa effeithiau iechyd hirdymor fydd yn sgil fêpio, mae’r GIG yn pryderu y gall salwch oes ddatblygu ymysg plant a phobl ifanc sy’n eu defnyddio. 

Mae gwerthu fêps i bobl o dan 18 oed yn anghyfreithlon, ond mae sawl unigolyn yn parhau i gael gafael ar y teclynnau ysmygu. 

Bellach, mae safonau masnach eisoes yn ymwybodol bod llawer o gynhyrchion anghyfreithlon ar gael mewn siopau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau diogelwch presennol.

Gall y cynhyrchion yma olygu bod pobl ifanc yn wynebu risg ychwanegol o halogion anhysbys, sydd o bosib yn fwy niweidiol.

'Datblygu dealltwriaeth'

Er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n defnyddio fêps, fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad ym mis Awst. Bwriad y grŵp yw “datblygu dealltwriaeth” ynghlwm a’r defnydd o fêpio ymysg pobl ifanc, gan nodi'r achosion, a sefydlu argymhellion i leihau'r niwed posibl.

Ym mis Medi, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ar fêpio i ysgolion yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd y ddogfen yn rhoi manylion ar beth yw dyfeisiau fêpio, eu risgiau iechyd, y gyfraith bresennol sy'n ymwneud â'u defnydd, a sut y gall ysgolion ymateb i fêpio ymhlith disgyblion.

Bydd y ddogfen hon hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut y gallai ysgolion ddymuno llunio polisïau mewnol ynghylch fêpio, a lle i geisio cymorth pellach.

Dywedodd Dr Julie Bishop, sef Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r diwydiant fêpio wedi ehangu'n gyflym dros y degawd diwethaf. 

“Mae cynhyrchion yn cael eu marchnata'n gyson mewn ffyrdd sy'n apelio at bobl iau gyda phecynnau lliwgar, dyluniadau modern, a blasau sy'n dynwared cynhyrchion melysion. 

“Fel cynnyrch newydd sy'n datblygu'n gyflym, nid yw risgiau fêpio wedi'u deall yn llawn eto, ond mae eisoes yn amlwg nad ydynt o fudd i'r rhai nad ydynt yn smygu a phobl ifanc. 

“Mae'r dystiolaeth yn dangos y bu cynnydd amlwg mewn adroddiadau o fêpio rheolaidd a dibynnol ymhlith plant oed ysgol uwchradd, ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ddysgu. 

“Bydd y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn parhau i gasglu gwybodaeth am y mater yng Nghymru a chynnig arweinyddiaeth o ran lliniaru niwed pellach i iechyd cyhoeddus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.