Y Sŵn yn arwain enwebiadau gwobrau Bafta Cymru 2023
Ffilm Y Sŵn, sy'n adrodd hanes safiad Gwynfor Evans a'r frwydr i sefydlu sianel S4C sydd yn arwain rhestr enwebiadau Bafta Cymru eleni.
Wedi’i hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones, mae hi wedi derbyn saith o enwebiadau yn cynnwys y categori Ffilm.
Mae’r rhaglen ffeithiol, Stori’r Iaith ar S4C, sy’n dilyn taith enwogion fel Alex Jones ac Elis James wrth ddarganfod mwy am hanes yr iaith Gymraeg hefyd wedi derbyn pump o enwebiadau. Mae Gruffydd Sion Rees wedi’i enwebu ar gyfer y wobr cyfarwyddo testun ffeithiol ar gyfer Stori'r Iaith.
Gyda chynyrchiadau Cymraeg yn flaenllaw ar y rhestr, cyflwynwyr ar raglenni S4C yw'r holl enwebiadau yng nghategori Y Cyflwynydd.
Y cyflwynwyr sydd wedi eu henwebu yw Lisa Jên a Sean Fletcher ar gyfer y gyfres Stori’r Iaith (Rondo Media /S4C) yn ogystal â Chris Roberts ar raglen Chris a’r Afal Mawr. (Cwmni Da /S4C) ac Emma Walford a Trystan Ellis-Morris ar gyfer Prosiect Pum Mil. (Boom Cymru/S4C)
Alex Jones fydd yn cyflwyno’r Seremoni Gwobrau: “Rwyf wrth fy modd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru eleni eto ac i ddathlu’r holl gynyrchiadau ffilm a theledu sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru,” meddai.
“Mae bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n hyrwyddo a dathlu'r holl dalent a chreadigrwydd gwych sy’n dod allan o’m mamwlad bob amser yn bleser.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cael eu henwebu ac edrychaf ymlaen at gael eich cwmni ar y noson.”
‘Dathlu rhagoriaeth’
Mae’r actor Graham Land wedi’i enwebu am ei rôl fel Les yn y gyfres ddrama, Dal y Mellt. Dyma'r tro cyntaf iddo derbyn enwebiad yn y categori perfformio.
Ar ôl cael ei darlledu ar S4C, mae’r gyfres ar wasanaeth ffrydio Netflix gyda’r teitl ‘Rough Cut’, a dyma'r tro cyntaf i gynhyrchiad iaith Gymraeg yn unig gael ei ddangos ar y platfform hwnnw.
Mae Owain Arthur, Rhis Ifans a Taron Egerton hefyd yn ymddangos yng nghategori’r actor gorau.
Mae’r actores o Gaerdydd, Rakie Ayola, yng nghategori'r actores – a hithau eisoes wedi derbyn un o brif anrhydeddau'r byd teledu, sef Tlws Sîan Phillips BAFTA Cymru.
Mae Ruth Wilson a Katy Wix hefyd wedi’u henwebu ar gyfer gwobr yr actores, a hynny wrth ochr Eiry Thomas.
Dywedodd Cadeirydd BAFTA Cymru, Angharad Mair: “Gyda gwaith cynhyrchu ffilm a theledu o Gymru yn cyrraedd pob cwr o’r byd, mae nodi, dathlu a hyrwyddo ein talent a chreadigrwydd yn bwysicach nag erioed.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld twf aruthrol yn y sectorau creadigol yma yng Nghymru ac mae wedi bod yn wych gweld cynnydd yn nifer y lleoliadau a chynyrchiadau Cymreig ar y sgrin yn rhyngwladol ac yn fyd-eang.
“Nod Gwobrau BAFTA Cymru yw dathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiannau sgrin, ac fel Cadeirydd BAFTA Cymru, rwy’n hynod o falch ac yn llawn cyffro i weld pa berlau creadigol fydd yn rhagori yn ystod Gwobrau Cymru eleni. Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi cael eu henwebu.”
Dywedodd Llinos Griffin-Williams Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu eleni ar gyfer gwobr BAFTA Cymru 2023.
“Dwi mor falch o lwyddiant cynnwys S4C gan ei fod yn dangos y talent, creadigrwydd a gwaith caled y sector greadigol yng Nghymru a’r holl gwmnïau cynhyrchu sy’n cyfrannu cynnwys ar ein cyfer.
“Pob lwc i bawb sydd wedi cael eu henwebu yn seremoni wobrwyo fis nesaf.”
Bydd seremoni Bafta Cymru 2023 yn cael ei chynnal yn yr ICCW yng Nghasnewydd am y tro cyntaf erioed, ar 15 Hydref.
Yr Enwebiadau
Dyma'r rhestr lawn ar gyfer enwebiadau Bafta Cymru 2023.
ACTOR
GRAHAM LAND Dal Y Mellt - Vox Pictures / S4C
OWAIN ARTHUR The Lord Of The Rings: The Rings of Power - Amazon Studios / Amazon Prime Video
RHYS IFANS House of The Dragon - HBO / 1:26 Pictures / Bastard Sword / GRRM Productions / Sky Atlantic
TARON EGERTON Black Bird – Apple Studios / Apple TV+
ACTORES
EIRY THOMAS Y Sŵn - Swnllyd
KATY WIX Big Boys - Roughcut TV / Channel 4
RAKIE AYOLA The Pact - Little Door Productions / BBC One Wales
RUTH WILSON His Dark Materials – Bad Wolf / BBC iPlayer
CYMRU TORRI DRWODD
EMILY MORUS-JONES Diomysus: More than Monogamy - BBC Wales & Emily Morus-Jones Production / BBC Three
ISSA FARFOUR Wales this Week and Wales at Six - ITV Cymru Wales
MARED JARMAN How This Blind Girl.. – Boom Cymru / BBC Two
RHAGLEN BLANT
GWRACH Y RHIBYN – Boom Cymru / S4C
MABINOGIOGI - Boom Cymru / S4C
Y GOLEUDY – Boom Cymru / S4C
DYLUNIO GWISGOEDD
JO THOMPSON Save The Cinema - Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema
SARAH YOUNG Willow - Lucasfilm Ltd. / Disney+
SIÂN JENKINS Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL
CHLOE FAIRWEATHER Scouting for Girls: Fashion's Darkest Secret – The Guardian / Wonderhood Studios / Sky Studios / Sky Documentaries
CLARE STURGES Charlie Mackesy: The boy, the Mole, the Fox, the Horse and Me - Salon Charlie Ltd / BBC Two
DYLAN WYN RICHARDS Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C
GRUFFYDD SION REES Stori'r Iaith – Rondo Media / S4C
CYFARWYDDWR: FFUGLEN
ISABELLA EKLÖF Industry – Bad Wolf / BBC iPlayer
LEE HAVEN JONES Y Sŵn - Swnllyd
RICHARD STODDARD Brassic - Calamity Films / Sky Max
SALLY EL HOSAINI The Swimmers – Working Title / Netflix
GOLYGU: FFEITHIOL
GWYN JONES Italia 90 - Four Weeks that Changed the World - Blast! Films / Sky Documentaries
JOHN GILLANDERS & DAFYDD HUNT Stori'r Iaith - Rondo Media / S4C
RHYS AP RHOBERT Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C
SION AARON Chris a'r Afal Mawr – Cwmni Da / S4C
GOLYGU: FFUGLEN
DAFYDD HUNT Yr Amgueddfa – Boom Cymru / S4C
JOHANNES HUBRICH The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max
KEVIN JONES Y Sŵn - Swnllyd
MALI EVANS Y Golau / The Light in the Hall - Triongl / Duchess Street / S4C
RHAGLEN ADLONIANT
CHRIS A'R AFAL MAWR - Cwmni Da / S4C
GOGGLEBOCS CYMRU - Cwmni Da / Chwarel / S4C
LUKE EVANS: SHOWTIME! – Afanti / BBC Two
STEREOPHONICS LIVE IN CARDIFF: WE'LL KEEP A WELCOME – BBC Studios / BBC One
CYFRES FFEITHIOL
A SPECIAL SCHOOL - Slam Media / BBC One Wales
GREENHAM - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C
STORI'R IAITH - Rondo Media / S4C
THE DISAPPEARANCE OF APRIL JONES - Blast! Films / Channel 4
FFILM NODWEDD/DELEDU
DONNA - Truth Department / Films de Force Majeure
FIVE DATES - Wales Interactive / Good Gate Media
Y SŴN - Swnllyd
NEWYDDION A MATERION CYFOES
BBC WALES INVESTIGATES; WELSH RUGBY UNDER THE SPOTLIGHT - BBC Cymru Wales / BBC One wales
COUNTY LINES - ITV Cymru Wales / S4C
LLOFRUDDIAETH LOGAN MWANGI - Multistory Media Cymru / ITV Studios / S4C
Y BYD AR BEDWAR: COST CWPAN Y BYD QATAR - ITV Cymru Wales / S4C
FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL
CHRISTIAN CARGILL Heart Valley - The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales
PAUL JOSEPH DAVIES Greenham - Teledu Tinopolis Cymru Cyf / S4C
SAM JORDAN-RICHARDSON Our Lives - Born Deaf Raised Hearing – On Par Productions / BBC One
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN
BJORN BRATBERG The Feast / Gwledd - Sgrech
BRYAN GAVIGAN Y Sŵn - Swnllyd
DAVID JOHNSON His Dark Materials – Bad Wold /BBC iPlayer
SERGIO DELGADO The Pact – Little Door Productions / BBC One Wales
CYFLWYNYDD
CHRIS ROBERTS Chris a'r Afal Mawr – Cwmni Da / S4C
EMMA WALFORD & TRYSTAN ELLIS-MORRIS Prosiect Pum Mil – Boom Cymru / S4C
LISA JÊN Stori'r laith – Rondo Media / S4C
SEAN FLETCHER Stori'r Iaith – Rondo Media / S4C
DYLUNIO CYNHYRCHIAD
DAFYDD SHURMER Y Sŵn - Swnllyd
DANIEL TAYLOR Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.
JOEL COLLINS His Dark Materials – Bad Wolf / BBC iPlayer
JONATHAN HOULDING Save The Cinema – Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema
FFILM FER
CARDIFF - The Festivals Company
HEART VALLEY - The New Yorker / Dalmatian Films / BBC Two Wales
INNER POLAR BEAR - Gritty Realism Productions
NANT - Strike Pictures – 4oD
RHAGLEN DDOGFEN SENGL
BLOOD, SWEAT AND CHEER - Little Bird Films / BBC Three
BROTHERS IN DANCE : ANTHONY AND KEL MATSENA - BBC Studios / BBC Two Wales
JASON AND CLARA - IN MEMORY OF MAUDIE - ITV Cymru Wales / ITV1
SPIKE MILLIGAN: THE UNSEEN ARCHIVE – Yeti / Sky Arts
SAIN
SOUND TEAM Industry – Bad Wolf / BBC iPlayer
SOUND TEAM The Feast / Gwledd - Sgrech
SOUND TEAM The Rising – Sky Studios / De Mensen / Sky Max
DRAMA DELEDU
CASUALTY - BBC Studios / BBC One
THE LAZARUS PROJECT - Urban Myth Films / Sky Max
PERSONA - Cwmni Da / S4C
AWDUR
JOE BARTON The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max
PETE MCTIGHE The Pact - Little Door Productions / BBC One
ROGER WILLIAMS Y Sŵn - Swnllyd
RUSSELL T DAVIES Nolly – Quay Street Productions / ITVX