B&M yn taro bargen i brynu hyd at 51 o siopau Wilko
Mae cwmni B&M wedi taro bargen i brynu hyd at 51 o siopau Wilko o ddwylo'r gweinyddwyr yn dilyn cwymp y siop gadwyn.
Aeth Wilko i ddwylo’r gweinyddwyr fis diwethaf, gydag arbenigwyr ansolfedd o gwmni PwC yn treulio’r wythnosau diwethaf yn ceisio sicrhau cytundeb ar gyfer y manwerthwr.
Mae gweinyddwyr wedi cynnal trafodaethau gyda nifer o gwmnïau, gan gynnwys perchennog HMV, Doug Putman, er mwyn achub 400 o siopau Wilko a 12,500 o swyddi.
Ddydd Mawrth, dywedodd B&M European Value Retail ei fod wedi cytuno i sicrhau hyd at 51 o safleoedd Wilko gan y gweinyddwyr mewn cytundeb gwerth hyd at £13 miliwn.
Mewn datganiad, ychwanegodd B&M: “Mae’r gydnabyddiaeth wedi’i hariannu’n llawn o’r cronfeydd arian parod presennol ac nid oes disgwyl i’r caffaeliad fod yn amodol ar unrhyw camau rheoleiddiol.
“Bydd diweddariad ar ddyddiad agor y siopau newydd hyn yn cael ei ddarparu yn y cyhoeddiad canlyniadau interim H1 ar Dachwedd 9.”
Mae grŵp B&M yn rhedeg tua 1,150 o siopau yn y DU a Ffrainc o dan y brandiau B&M a Heron.
Deellir bod disgwyl i'r mwyafrif o'r siopau newydd ailfrandio fel B&M.