
Pennaeth Gwasanaeth Tân De Cymru 'dan ymchwiliad' wedi achos aflonyddu un o'i staff

Mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn destun ymchwiliad ar ôl i ddioddefwr aflonyddu rhywiol ei gyhuddo o fod yn anonest am yr hyn yr oedd yn ei wybod am ei hachos.
Mewn cyfweliad gydag ITV News fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd Huw Jakeway nad oedd wedi bod yn ymwybodol o'r aflonyddu a ddioddefodd Shirley - sy’n dymuno peidio datgelu ei chyfenw - tra'i bod yn gweithio fel glanhawraig mewn gorsaf dân yng Nghaerdydd.
Mae ymchwiliad allanol bellach wedi ei gomisiynu gan y gwasanaeth yn dilyn cwyn bellach gan Shirley.
Roedd sylwadau'r Prif Swyddog yn dilyn adroddiad ar ITV News lle'r oedd Shirley’n egluro sut roedd diffoddwr tân wedi cael aros yn ei swydd er gwaethaf iddo ddinoethi ei hun o'i blaen a'i dilyn o amgylch yr orsaf.

Mewn cyfweliad emosiynol, dywedodd Shirley bod yr aflonyddu cynyddol wedi ei gadael hi'n ofni y gallai gael ei threisio.
Er gwaethaf panel disgyblu’n cadarnhau ei chwyn, cafodd yr aelod o staff gwrywaidd ei symud i orsaf arall, dim ond i gael dyrchafiad eto gan y gwasanaeth tua blwyddyn yn ddiweddarach.
Gwahoddwyd Mr Jakeway gan ITV News i gyfweliad i drafod aflonyddu Shirley y diwrnod ar ôl i'w stori gael ei darlledu.
Yn y cyfweliad hwnnw, dywedodd fod gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg yn yr adroddiad ac nad oedd yn ymwybodol o ganlyniad y broses ddisgyblu.
Mae ITV yn deall mai'r "wybodaeth newydd" y cyfeiriodd y Mr Jakeway ato yw'r ffaith bod Shirley yn ofni y gallai gael ei threisio, yn hytrach na manylion yr aflonyddu ei hun.
Mewn cwyn a anfonwyd at Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae hi'n honni ei fod yn anonest i Huw Jakeway i awgrymu mai gwybodaeth newydd oedd wedi dod i law neu fel arweinydd y gwasanaeth na fyddai wedi bod yn ymwybodol o fater mor ddifrifol.
Dywedodd Shirley wrth ITV: "Ar deledu cenedlaethol roedd yn rhaid i mi agor fy ngheg er mwyn i mi gael rhywfaint o gyfiawnder.
"Fydda i byth yn dod drosto, dwi ddim yn meddwl. Mae'n rhywbeth sy'n cymryd drosto chi.
"Pe bai'n fos da fel mae ei fod i fod fel pennaeth, yna byddai wedi gwybod am yr hyn sy'n digwydd yn ei wasanaeth. Yn lle hynny, rwy'n ei wneud drosto.
"Dim ond glanhawr, ysgubo'r holl sbwriel."
Mae ITV News yn deall bod y diffoddwr tân a aflonyddodd ar Shirley yn parhau wedi ei wahardd o’i swydd, ond nad yw wedi cael ei ddiswyddo o'r gwasanaeth bron i flwyddyn yn ddiweddarach.

Dywedodd un diffoddwr tân oedd yn gwasanaethu fod Huw Jakeway wedi colli hyder ei staff.
"Fy marn i yw ei fod yn llwfr. Mae o newydd golli'r parch, mae o wedi colli'r ymddiriedaeth, mae o wedi colli popeth," meddai.
"Mae'n ceisio cuddio tu ôl i'r bobl mae wedi eu rhoi ar waith oddi tano a honni eu bod wedi gwneud y cyfan ac nid ef oedd e, ond mae e wedi eu rhoi nhw yn eu lle ac wedyn mae e wedi eu taflu nhw o dan y bws.
"I rywun sy'n gyfrifol am sefydliad mor fawr, mae'n anghywir."
Mewn datganiad, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae statws ymchwiliadau i unrhyw weithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau'n gyfrinachol rhwng y gweithiwr a'r gwasanaeth.
“Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaeth ITV News ymchwilio ac adrodd ar honiadau ynghylch aflonyddu rhywiol yn y Gwasanaeth.
"O ganlyniad, cychwynnwyd adolygiad annibynnol i'n diwylliant, prosesau disgyblaeth ac achosion hanesyddol ac mae ar y gweill ar hyn o bryd.
"Mae'r Tîm Adolygu Diwylliant yn croesawu mewnbwn gan aelodau staff presennol a chyn-aelodau o staff (sydd wedi gadael GTADC o fewn y saith mlynedd ddiwethaf), asiantaethau partner a chydweithwyr Golau Glas, yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd.
"Rydym wedi ymrwymo i ddelio ag unrhyw gamau sy'n mynd yn groes i'n gwerthoedd a'n safonau proffesiynol."