Pêl-droed: Cystadlu yn Uwch Gynghrair Ewrop yn gyfle ‘i roi Cymru ar y map’ medd chwaraewr Caerdydd
Fe fydd Clwb Pêl-droed Menywod Caerdydd yn herio pencampwyr Lithwania yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr UEFA, ddydd Mercher.
Ar ôl ennill Uwch Gynghrair Adran Genero Cymru y tymor diwethaf, fe fydd yr Adar Gleision yn wynebu FC Gintra, o Lithwania, ym mhrif gystadleuaeth clybiau menywod Ewrop.
Un o’r chwaraewyr fydd yn teithio gyda’r tîm yw Megan Bowen, sy'n 18 oed o Bontypridd.
Er eu bod nhw ar fin gystadlu ar y lwyfan Ewrop, dywedodd Megan bod y paratoadau wedi aros yr un peth.
“Pan chi’n chwarae tim sydd ddim o Gymru, wrth gwrs ma sut ma nhw'n chwarae yn hollol wahanol,” meddai.
“Ma’r paratoadau yn mynd fel unrhyw gêm arall.
“Ni’n ymarfer tair gwaith yr wythnos, ni’n paratoi y gorau gallwn ni a ni isie mynd i fwynhau y profiad,” meddai.
“Ond ni yn mynd yna i ennill hefyd.”
Er hyn, dywedodd bod y tîm wedi gorfod blaenoriaethu eu lefelau ffitrwydd ar ol clywed am hanesion y chwaraewyr mwy profiadol.
“Ni di bod yn siarad gyda rhai o chwaraewyr mwy profiadol sydd wedi chwarae timau yn Ewrop a dywedon nhw un o’r pethau sy’n wahanaol yw’r ffitrwydd.
“Ni ddim yn chwarae tîm o lawr yr heol, ni’n chwarae tîm o gwlad hollol wahanol.
"Ma’n rhaid i ni matcho nhw.
Eisiau rhoi Cymru ar y map
Dechreuodd Megan chwarae pêl-droed pan oedd hi’n bum mlwydd oed. Roedd hi'n aml yn chwarae ar y stryd a gyda’r bechgyn, meddai.
Erbyn hyn mae Megan wedi cynrychioli tîm Cymru dan 15, dan 17, a dan 19.
Mae’r ymgyrch yma yn rhywbeth mae’r amddifynwr wedi breuddwydio am gymryd rhan ynddi ers iddi ddechrau chwarae.
“Pan ti’n blenytyn bach ti’n gwylio fe trwy’r amser.
“Ma timau o Loegr wastod yn neud yn dda, a ni eisiau rhoi enw Cymru ar y map, ni eisiau neud yn dda, ni eisiau mynd i gystadlu – ni eisiau ennill.
“Ma pawb isie chwarae Champions League, ma pawb yn gwylio fe ar y teledu a fi’n credu dyna’r gôl i bob tîm yn y gynghrair.
Dyma gyfle hefyd i dyfu’r gyngrhair, medd Megan: "Ma’r gynhrair i ni ynddo nawr, mae dim ond yn tyfu.
"Ma’r merched sydd wedi chawarae yn y Champions League a ma merched ifanc yn dod lan a dyna’r peth gorau i’r gynghrair.
"Ni eisiau mwy o dimau yn dod a contracts mewn, ni eisiau datblygu.
“Dyma beth fydd yn tyfu’r gynghrair.
Yr Adar Gleision oedd yr ail dîm yn yr Adran Genero i gynnig cytundebau lled-broffesiynnol i’w chwaraewyr nhw, ar ôl i Wrecsam ymrwymo i gynnig cytundebau o'r fath.
Ers hynny, mae Abertawe hefyd wedi cynnig cytundebau lled-broffesiynol i'w chwaraewyr
Pwynt i brofi
Yn ôl y Prif Hyfforddwr y tîm, Iain Derbyshire, mae’r menywod wedi bod yn cymryd y paratoadau yn gwbl o ddifri.
Dywedodd: “Rydym yn ymarfer tair gwaith yr wythnos ac wedi cael wyth gem paratoadol yn erbyn timau fel Tottenham Hotspur, Wolves a Portsmouth.
“Rydym ni eisiau’r gynghrair yng Nghymru fod y gorau posib. Mae gennym ni bwynt i brofi allan yna,” meddai.
Fe fydd yr enillydd ddydd Mercher yn wynebu naill ai Glasgow City o'r Alban neu Shelbourne FC o Iwerddon yn y rownd ragbrofol derfynol.
Fe fydd enillydd o'r ail gêm yn mynd ymlaen i'r ail rownd ragbrofol, gyda siawns o wynebu clybiau fel Manchester United a Real Madrid.