Newyddion S4C

S4C yn darlledu mwy o bêl-droed menywod wrth i'r diddordeb yn y gamp ‘dyfu’

25/08/2023
Wrecsam v Llansawel

Mae S4C wedi dweud ei bod yn bwriadu darlledu mwy o bêl-droed menywod eleni.

Bydd y darlledwr yn dangos tair cystadleuaeth ddomestig ac un cystadleuaeth ryngwladol pêl-droed menywod Cymru yn ystod y tymor bêl-droed menywod.

Y dair gystadleuaeth fydd y Brif Adran Premier Genero, Tlws yr Adran Genero a Cwpan Cymru Bute Energy, a bydd S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau’r gemau rhyngwladol yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mi fydd tymor yr Adran Premier Genero yn cychwyn gyda Wrecsam yn erbyn Abertawe ac mi fydd y gêm i’w gweld ar S4C ar 17 Medi gyda’r gic gyntaf am 5.45pm.

Dyma fydd gêm gyntaf tîm pêl-droed menywod Wrecsam yn y Brif Adran ar ôl ennill dyrchafiad llynedd.

Bydd Sioned Dafydd yn cyflwyno, gyda’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Gwennan Harries a Katie Sherwood yn dadansoddi fel rhan o dîm Sgorio.

Dywedodd Sioned Dafydd bod poblogrwydd gemau pêl droed menywod wedi cynyddu.

“Mae’n wych fod S4C yn gallu adlewyrchu’r diddordeb a’r safon gwych sydd yno ar draws gaeau pêl droed Cymru ar y sianel,” meddai.

“Mae'n fraint enfawr cael bod yn rhan o dîm anhygoel Sgorio sydd mor frwdfrydig dros hybu gêm y menywod yma yng Nghymru.

“Mae’r gêm hon rhwng Wrecsam ac Abertawe am fod yn achlysur a hanner – gêm gyntaf Wrecsam yn y Brif Adran yn erbyn un o'r clybiau fwyaf llwyddiannus yn hanes y gynghrair, Abertawe.

“Dyma ddau dîm sydd yn cynnwys chwaraewyr safonol ac arbennig. Mae'n addo i fod yn dipyn o achlysur yn y Graig.”

‘Tyfu’

Meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched a Menywod gyda Cymdeithas Pêl-droed Cymru y bydd darlledu rhagor o gemau merched yn “helpu ni i dyfu’r gêm dros y wlad”.

“Er mwyn creu gêm gyfartal, mae'n rhaid i bawb allu gweld gêm y menywod yn weladwy ar ein sgrîn, a bod merched ifanc yn gallu gweld eu hunain yn y gêm,” meddai.

“A gyda nifer or clybiau yn yr Adran Premier Genero yn symud i fod yn semi-pro, mi fydd y safon yn parhau i wella pob blwyddyn. Am gêm gyffrous i ddechrau!"

Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C ei fod yn “falch iawn” i roi mwy o sylw i bêl-droed menywod ar S4C.

“Mae’r diddordeb yn y gêm yn tyfu, mae’r safon yn codi ac mae dyletswydd arnom ni i roi llwyfan teilwng i’r chwaraewyr,” meddai.

“Law yn llaw â’r uchafbwyntiau o gemau rhyngwladol menywod Cymru, rydyn ni’n gobeithio y bydd S4C yn medru ysbrydoli mwy fyth o ferched i chwarae a dilyn pêl-droed.”

Pob nos Lun, mi fydd uchafbwyntiau un gêm o’r Brif Adran Genero i’w gweld ar raglen Sgorio.

Bydd S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau pob un o chwech gêm Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd y tymor yma, gan gychwyn gyda Gwlad yr Iâ v Cymru ar 22 Medi.

Mae Adran Premier Genero, Wrecsam v Abertawe - 17 Awst 17:30 yn gynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.