Dedfryd oes i Lucy Letby am lofruddio a cheisio llofruddio babanod
Dedfryd oes i Lucy Letby am lofruddio a cheisio llofruddio babanod
Mi fydd y cyn nyrs Lucy Letby yn treulio gweddill ei hoes yn y carchar am lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio chwech o fabanod eraill.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Manceinion ddydd Llun, fe gafodd Letby, ei dedfrydu i garchar am oes ar gyfer pob un o'r euogfarnau yn ei herbyn gan y barnwr Mr Ustus Goss. Mae'n golygu na chaiff fyth ei rhyddhau.
Dywedodd y barnwr bod ei gweithredodd yn "greulon a phwrpasol".
Nid oedd Letby yn bresennol yn y llys i glywed y ddedfryd a dywedodd ei chyfreithwyr nad oedd hi am wylio’r gwrandawiad dros ddolen fideo chwaith, am resymau na chafodd eu datgelu.
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cadarnhau fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgeisio i newid y gyfraith er mwyn gorfodi troseddwyr i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau dedfrydu.
Gorchmynnodd y barnwr bod ei sylwadau wrth ei dedfrydu yn cael eu cyflwyno i Letby yn ogystal â chopi o ddatganiadau'r teulu yn nodi effaith ei gweithredoedd.
Yn ystod cyfres o ddatganiadau teuluol a gafodd eu clywed yn y gwrandawiad, dywedodd un fam iddi feio ei hun, gan feddwl iddi drosglwyddo salwch neu haint i'w meibion pan yn ddiwrnod oed. Ond yn hytrach, roedd eu meibion wedi eu targedu gan Letby.
Cyn ei dedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus Goss wrth Letby : "Yn eich tystiolaeth, fe ddywedoch fod brifo baban yn gwbwl groes i'r hyn sy'n ddisgwyliedig o nyrs. Fel y dylai fod, yn wir. Fe honnoch hefyd na wnaethoch unrhywbeth a ddylai fod wedi brifo babi, gan geisio eich gorau glas i ofalu amdanyn nhw.
"Roedd hynny yn un o nifer o gelwyddau a ddywedoch yn yr achos hwn."
Achos 'echrydus'
Wrth ymateb i'r ddedfryd ar raglen Newyddion S4C dywedodd Dr Dewi Evans, yr ymgynghorydd Paediatregol a oedd yn brif arbenigwr meddygol i’r erlyniad yn achos Lucy Letby mai dyma'r penderfyniad cywir: "Dyw e ddim yn mynd i ddod ’nôl â’r plant. Mae’r achos hyn wedi bod yn echrydus o’r dechrau i’w diwedd a dweud y gwir, a ’sda fi ddim syniad eto pam mae hyn wedi digwydd.
"Ond heb os, roedd y babanod hyn yn fabanod iach, a dylen nhw fod nawr yn saith oed yn rhywle neu’i gilydd yng ngogledd Lloegr neu yng ngogledd Cymru, ac mae hi wedi cymryd eu bywyd wrthyn nhw, ac wedi strywio nid yn unig y babanod, ond y rhieni hefyd.
"Felly dyna’r unig ddedfryd dwi’n credu sydd yn berthnasol mewn achos fel hyn, a dwi’n flin iawn clywed bod dim hawl gyda neb i dynnu hi fewn i’r bocs i glywed tystiolaeth y rhieni bore ’ma. Roedden nhw’n drawiadol iawn, iawn", meddai Dr Evans.
Roedd Letby, 33, yn gweithio fel nyrs yn yr uned newydd-anedig yn Ysbyty Countess of Chester dros gyfnod o flwyddyn rhwng 2015 a 2016.
Yn euog o saith achos o lofruddio, Lucy Letby yw'r llofrudd sydd wedi lladd y nifer mwyaf o blant yn y Deyrnas Unedig yn yr oes fodern.
Marwolaethau
Dywedodd erlynwyr fod Letby wedi defnyddio gwendidau babanod sâl a babanod a gafodd eu geni yn gynnar er mwyn cuddio ei gweithredoedd.
Defnyddiodd amryw o ffyrdd gwahanol i frifo'r babanod gan gynnwys chwistrellu aer i'w llif gwaed a'u stumogau.
Roedd rhai o'r plant yn destun sawl ymgais i'w lladd gan y nyrs "oer a chreulon".
Yn 2015 a 2016, roedd yna gynnydd sylweddol yn nifer y babanod a wnaeth ddioddef gwaeledd difrifol ac annisgwyl mewn uned newydd-anedig yn Ysbyty Countess of Chester yng Nghaer.
Letby oedd yr unig aelod o’r staff nyrsio a chlinigol ar ddyletswydd bob tro y digwyddodd hynny, a dywedodd erlynwyr y Goron nad oedd y digwyddiadau yma yn rhai naturiol.
Daeth uwch-reolwyr yn ymwybodol o bresenoldeb Letby pan ddigwyddodd yr achosion hyn ddiwedd Mehefin 2015.
Cynyddodd y pryderon ymysg rhai meddygon ymgynghorol am Letby, ac fe wnaethon nhw gysylltu â rheolwyr yr ysbyty pan ymddangosodd rhagor o achosion annisgwyl.
Ond ni chafodd Letby ei thynnu o’r uned tan ar ôl marwolaeth dau set o dripledi ac wedi i gyflwr baban arall waethygu dros dri diwrnod yn olynol ym mis Mehefin 2016.
Cafodd Letby ei chyfyngu i waith clerigol ac ym mis Medi 2016, fe wnaeth gofrestru gweithdrefn gwyno.
Heb weithgor, daeth i’r amlwg yn ystod yr achos fod y weithdrefn gwyno wedi ei datrys o blaid Letby ym mis Rhagfyr 2016.
Roedd Letby i fod i ddychwelyd i’r uned newydd-anedig ym mis Mawrth 2017 ond ni ddigwyddodd hynny wedi i ymddiriedolaeth yr ysbyty gysylltu â’r heddlu.
Cafodd y nyrs ei harestio yn ei chartref yng Nghaer ar 3 Gorffennaf 2018.
Wrth i’r heddlu chwilio drwy ei chartref, cafodd nifer o nodiadau eu darganfod.
Roedd y rhain yn cynnwys negeseuon megis “Dwi ddim yn haeddu byw. Fe wnes i eu llofruddio ar bwrpas oherwydd nad ydw i ddigon da i edrych ar eu holau nhw.”
Ar ddiwedd yr achos dedfrydu ddydd Llun, dywedodd y barnwr ei fod yn "diolch i aelodau'r rheithgor unwaith yn rhagor am eu hymroddiad eithriadol".
Fe wnaeth e gydnabod bod hwn yn achos y tu hwnt o emosiynol a bod cefnogaeth ar gael.