Newyddion S4C

Storm Betty: Mwy o law trwm a gwyntoedd cryfion i rai ardaloedd

19/08/2023
tywydd awst

Mae rhybudd melyn yn parhau mewn grym am fwy o law trwm a gwyntoedd cryfion ar draws gorllewin Cymru tan 12:00 ddydd Sadwrn.

Gall hyrddiadau gyrraedd 44-55 mya mewn nifer o lefydd ar y glannau ym Môn, Gwynedd a Sir Benfro, gyda rhai mannau yn profi gwyntoedd o 60 mya. 

Fe wnaeth nifer fawr o ardaloedd weld cyfnodau o law trwm a gwyntoedd cryf ddydd Gwener.

Dros nos, roedd yr hyrddiadau gwynt cryfaf yng Nghapel Curig, Gwynedd, gyda gwyntoedd yn cyrraedd 66mya.

​​​​​​Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai fod perygl o anafiadau a pherygl i fywyd o ganlyniad i donnau nerthol a deunydd yn cael ei daflu o'r môr ar draethau, ffyrdd arfordirol a hefyd difrod i eiddo.

Fe allai gwyntoedd greu difrod i adeiladau gyda rhybudd teithio i bobl sy'n gyrru ar y ffyrdd.

Mae yna bosibilrwydd o darfu ar gyflenwadau trydan hefyd yn ogystal ag oedi i wasanaethau trên neu fws.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.