
Angen 'gwneud mwy' i gadw pobl ifanc yng nghefn gwlad
Mae angen gwneud mwy i atal pobl ifanc rhag gadael cefn gwlad Cymru, yn ôl Plaid Cymru.
Mae'r blaid yn dweud bod mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen i gadw pobl yn eu broydd ac adfywio ardaloedd gwledig, wrth i weithio hybrid a thechnoleg newydd ddod yn fwy cyfarwydd.
Ond mae nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu strategaeth newydd i atal diboblogi.
Wrth ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod helpu pobl ifanc aros yn eu broydd yn flaenoriaeth.
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae sawl sir yn y Fro Gymraeg wedi gweld eu poblogaeth yn gostwng.
Yng Ngwynedd mae'r boblogaeth wedi gostwng 3.7% o gymharu a 2011, gyda mwy o bobl ifanc wedi gadael y sir a mwy o bobl dros 65 wedi symud i’r ardal.
Mae’r sefyllfa yn debyg mewn sawl man arall; mae’r boblogaeth yng Ngheredigion wedi gostwng 5.8% ac Ynys Môn yn 1.2%.
Ond mynnu mae Plaid Cymru fod cyfle euraidd i adfywio cefn gwlad Cymru drwy fanteisio ar y dechnoleg diweddara.
“Mae na gyfle o’n blaenau ni rŵan”, meddai Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi.

“Mae gyno ni gweithio’n hybrid, cynlluniau fel Arfor a Llwyddo’n Lleol, cynlluniau i bobl ifanc i feddwl am entrepenwriaeth a chychwyn busnesau, a mwy o gyfleoedd nag erioed i fod yn gweithio o’r ardaloedd hynny”.
Yn ôl yr Arweinydd Cyngor mae angen strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru.
“Be sydd ei angen ydi cryfhau hyn, y cyfleoedd a sicrhau bod ein pobl ifanc yn gweld bod na gyfle i fynd i’r ddinas ond mae na bob tro le i ni ddod nol i weithio”.
A dod yn nol i gefn gwlad Cymru mae Owain ap Myrddin wedi gwneud wrth adael Caerdydd i ddychwelyd nol i Llwyndyrys ym Mhen Llyn.

“Ddes i benderfyniad rhyw flwyddyn yn ôl bo fi eisiau dod nol i fyw adra”, meddai Owain sy’n gweithio i’r Urdd.
“Ddes i benderfyniad rhyw flwyddyn yn nol bo fi am ddod nôl adre ac eisiau cadw’r un un swydd”.
“Dwi’n hynod ddiolchgar i’r Urdd bo fi’n medru gwneud hynny ‘lly a dwi’n meddwl bod nhw’n arwain y ffordd yn caniatáu i bobl symud a gweithio o ardaloedd wahanol o Gymru”.
Cadw pobl ifanc yn eu broydd ydi un o brif brosiectau Menter Môn dan faner ‘Llwyddo’n Lleol’.
Mae nhw’n cynnig hyfforddiant a grantiau ariannol i bobl ifanc sydd am ddechrau busnesau newydd yn lleol.
Mi wnaeth Tomos Owen weld budd y cynllun yn 2020 drwy dderbyn cymorth wrth sefydlu ei fusnes Swig Smoothies.
“Mi oedd o’n broblem i ddechrau , oni’n meddwl, ydw i angen symud i sefydlu busnes ond drwy Llwyddo’n Lleol a Menter Môn, mae nhw wedi dangos imi fod na fyd wahanol”.
“Mae bron iawn yn well defnyddio ein USP o fod yn Gymraeg a’r gefnogaeth wedyn wedi bod yn amazing”.
Yn ôl Jade Owen o Llwyddo’n Lleol mae’r prosiect yn hanfodol yn y frwydr i geisio denu pobl yn nol i ardaloedd gwledig Cymru
“Dwi’n teimlo fod hi’n holl bwysig newid yr ystrydeb ma fod pobl ifanc yn teimlo fod yn rhaid gadael eu bro er mwyn llwyddo”.
“Mae cyfleoedd cyffrous o ran swyddi ac o ran bywyd cymdeithasol hefyd”.
Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu strategaeth cenedlaethol wrth fynd i’r afael a diboblogi gwledig.
Wrth ymateb, cydnabod pwysigrwydd dyfodol pobl ifanc wnaeth Llywodraeth Cymru.
“Mae gweithio o bell unai adra neu yn agos at adra yn helpu’n fawr at hynny,” meddai llefarydd.
“Dyna pam rydym yn hybu buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gweithio o bell”.
Ychwanegodd eu bod hefyd yn buddsoddi mewn swyddi mewn mannau gwledig i helpu pobl allu un ai aros neu symud yn nol i’w broydd.