Y Cymro ifanc sydd yn cynrychioli Cymru mewn ras redeg yn Llydaw

Ddydd Sadwrn bydd Ollie George o Sir Benfro yn cynrychioli Cymru yn y ras redeg, Trail De Guerledan, yn Llydaw.
Mae’r Trail De Guerledan yn cynnal Pencampwriaethau Rhedeg Llwybrau Ewrop. Mae’n cwmpasu pellter o 26KM yng nghadwyn mynyddoedd a llwybrau Llydaw.
Dyma fydd cyfle cyntaf swyddogol Ollie George i gynrychioli Cymru.
“I mi mae cystadlu mewn ras o safon uchel fel hon, a chystadlu dramor, yn brofiad rhyfeddol a gwefreiddiol ac yn anrhydedd,” meddai.
Cafodd y myfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei ddewis wedi iddo ddod yn ail ym Mhencampwriaethau Rhedeg Llwybrau Cymru ym Mhontarfynach ger Aberystwyth ym mis Ebrill.
'Penderfynol'
Mae Ollie George wedi bod yn angerddol am redeg ers pan oedd yn blentyn, a gan ei fod yn dod o gefndir ffermio, roedd wedi arfer rhedeg ar ôl gwartheg y teulu.
“Yn bersonol, roeddwn i wastad eisiau bod yn rhedwr proffesiynol o oedran ifanc, ac roeddwn yn benderfynol o wneud hynny trwy weithio’n galed, hyfforddi a llwyddo mewn rasys,” meddai.
Mae’r rhedwr ar hyn o bryd yn fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf yn y Drindod Dewi Sant a phenderfynodd astudio yn y Brifysgol am ei fod eisiau datblygu ei dechneg rhedeg.
Dywedodd fod y cwrs wedi’i helpu i ddatblygu ei yrfa fel athletwr.
“Mae Geraint Forster, fy narlithydd, wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i mi i gynorthwyo gyda’m gyrfa rhedeg, gan gynnwys rhoi Prawf VO2 Max i mi,” ychwanegodd.
Dywedodd Geraint Forster: “Mae’n wych bod y Brifysgol wedi gallu cefnogi Ollie gyda’i weithgareddau chwaraeon ochr yn ochr â’i astudiaethau. Fel aelod o’r Academi Chwaraeon Unigol, mae Ollie’n derbyn cefnogaeth gan gynnwys sesiynau trac, sesiynau cryfder a chyflyru a chlinigau therapi chwaraeon.
“Hoffem ddymuno’n dda i Ollie yn ei ras ryngwladol gyntaf.”