Dadorchuddio car Ferrari maint llawn wedi’i greu o Lego

Mae model maint llawn o gar Ferrari wedi cael ei adeiladu gan ddefnyddio darnau o Lego ym mharc Legoland Windsor.
Fe gafodd model y gar Ferrari Daytona SP3 ei greu gan ddefnyddio 402,836 o friciau Lego ac fe gymerodd mwy na 2,000 o oriau i’w adeiladu.
Mae’r model, sy’n pwyso dros 1.5 tunnell, wedi cael ei ddadorchuddio fel rhan o atyniad newydd yn y parc ger Llundain.
Fe fydd cwsmeriaid yn gallu ymweld â’r car mewn garej arbennig yn y parc gan gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau.
Bydd modd gweld y car Lego Ferrari am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn, 27 Mai.
Llun: Ben Stevens/PinPep/PA Wire.