Ron DeSantis yn cyhoeddi y bydd yn herio Trump ar gyfer enwebiad arlywyddol y Gweriniaethwyr

Mae Ron DeSantis wedi lansio ei ymgyrch i ennill ras arlywyddol 2024 - a hynny ar Twitter, yng nghwmni cyfarwyddwr y cwmni, Elon Musk.
Mae’n cael ei ystyried fel prif wrthwynebydd y cyn-arlywydd Donald Trump sydd eisoes wedi dweud ei fod eisiau bod yn ymgeisydd ei blaid yn etholiad cyffredinol 2024.
Roedd problemau technegol yn golygu bod ymgyrch llywodraethwr Gweriniaethol Florida am yr enwebiad arlywyddol wedi cychwyn 20 munud yn hwyr.
Aeth ymlaen i ddefnyddio'r digwyddiad i hyrwyddo ei rinweddau ceidwadol, ei wrthwynebiad i'r cyfnod clo, a diwygiadau addysgol.
“Rwy’n rhedeg i fod yn arlywydd yr Unol Daleithiau er mwyn adfer America,” meddai.
Mae Ron DeSantis yn wynebu talcen caled wrth i arolygon barn awgrymu fod Donald Trump yn arwain o tua 30 pwynt ar hyn o bryd ymysg y rheini a fydd yn dewis ymgeisydd y Gweriniaethwyr.
'Codi £1m'
Erbyn i sgwrs Twitter nos Fercher ddechrau o ddifrif, roedd cannoedd o filoedd o ddefnyddwyr Twitter wedi gadael y cyhoeddiad.
Ers i Mr Musk gymryd yr awenau yn Twitter ym mis Hydref, mae wedi diswyddo miloedd o weithwyr, gan gynnwys peirianwyr sy'n gyfrifol am weithrediadau'r safle a datrys problemau technegol.
Gweithiodd tîm Mr DeSantis yn gyflym i ddatrys y problemau technegol, gan ysgrifennu ar Twitter bod y cyhoeddiad wedi torri "y rhyngrwyd gyda chymaint o gyffro", a phostio dolen i wefan yr ymgyrch.
Honnodd ei ysgrifennydd y wasg, Bryan Griffin, fod y digwyddiad ar-lein wedi codi $1m (£808,000) mewn awr.