Geraint Thomas yn ildio’r Maglia Rosa yn y Giro

Mae Geraint Thomas wedi ildio crys pinc y Maglia Rosa fel arweinydd ras y Giro d’Italia.
Nico Denz o'r Almaen enillodd cymal 14 y ras ddydd Sadwrn dros 193 cilomedr o Sierre yn y Swistir nôl i Cassano Magnago yn yr Eidal.
Fe orffennodd Bruno Armiral o Ffrainc 53 o eiliadau y tu ôl iddo i gipio’r Maglia Rosa oddi ar Thomas, sydd yn 1:41 tu ôl iddo fe yn yr ail safle, gyda Primož Roglič dwy eiliad ar ôl Thomas.
Fe fydd yn her i Armiral dal ei afael ar y Maglia Rosa wrth i’r reidwyr frwydro yn y mynyddoedd dros 195 cilomedr ddydd Sul o Seregno i Bergamo.
Mae Roglič wedi bod yn gysurus yn cysgodi Thomas hyd yn hyn a thybed a fydd yn ceisio ennill ychydig o dir arno ddydd Sul.
Llun: Twitter/Ineos Grenadiers