Newyddion S4C

Yr Heddlu

Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe

NS4C 20/05/2023

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe nos Wener.

Cafodd cerddwr, 20 oed, ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau all beryglu ei fywyd, yn ôl yr heddlu, yn dilyn y gwrthdrawiad gyda beic modur ar ffordd Fictoria yn y ddinas am tua 21:35.

Dywedodd y llu fod gyrrwr y beic modur, 23 oed, wedi ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau ond ei fod wedi ei arestio yn ddiweddarach ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus.

Fe ychwanegodd y llu eu bod nhw’n ymwybodol fod nifer o feiciau modur wedi bod yn teithio ar hyd Ffordd y Mwmbwls cyn y gwrthdrawiad.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gan nodi cyfeirnod 2300163122.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.