Galw am fwy o gyfleoedd i bobl sydd am ddatblygu gyrfa fel perfformwyr stynt
Galw am fwy o gyfleoedd i bobl sydd am ddatblygu gyrfa fel perfformwyr stynt

Yn wreiddiol o Griccieth, mae Giovana Braia yn gweithio fel styntwraig ar gynhyrchiadau teledu a ffilm.
Wedi iddi hyfforddi yn y brifysgol yn Llundain, mae’n pryderu bod diffyg cyfleusterau i bobl sydd am ddod yn berfformwyr stynt yng Nghymru.
Yn sgil hynny, mae’n awyddus i sicrhau mwy o gymorth i unigolion sydd am wireddu eu breuddwydion.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Mae’n dal yn anodd i bwy bynnag sydd yng Nghymru i gael y training a pusho i gael y full register fel stunt performer.
“Mae hynna’n rhywbeth dwi eisiau edrych i mewn i, i helpu mwy o bobol.
“Mae llawer o bobol yn Prydain ond dim llawer o bobol yng Nghymru, sy’n crazy i fi.
“Dwi’n meddwl ‘ella bod ‘na llai o bosibilrwydd iddyn nhw gael y training ‘na neu cael y stunt co-ordinator felly mae posibilrwydd o pusho hwnna mwy,” meddai.
Swydd ‘llawn adrenalin’
Ers iddi gychwyn yn ei swydd dair blynedd yn ôl, mae Giovana Braia wedi bod yn rhan o sawl cynhyrchiad llwyddiannus gan gynnwys gweithio ar gyfer rhaglenni ar Sky ac Apple TV.
Fel rhan o’i swydd, bu'n rhaid iddi gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymarferion corfforol heriol – gan gynnwys ymladd, hongian o wifren, a neidio o uchder.
Nawr, mae’r styntwraig yn perfformio ar ran actorion mewn cyfres newydd sy’n llawn “cwffio” ac “adrenalin,” meddai.
“Ar y funud, dwi’n cael stunt-double roles…mae stunt doubles yn pan ti’n actually dyblo’r actores.
“Mae o’n swydd i adrenaline-seekers dwi’n meddwl achos pan ti’n mewn y cwffio ‘na neu os ti jyst am jympio off rhywbeth, ti efo’r adrenalin yn buildio fynny."