Newyddion S4C

Vape

Canran y plant sy'n arbrofi gyda fêpio 'yn codi 50% mewn blwyddyn'

NS4C 18/05/2023

Mae cynnydd o 50% wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf yng nghanran y plant sy’n arbrofi gyda fêpio, yn ôl canlyniadau arolwg newydd.

Mae'r data ar gyfer y DU yn awgrymu fod cynnydd mewn fêpio arbrofol ymhlith pobl ifanc 11 i 17 oed a hynny o 7.7% y llynedd i 11.6% eleni.

Gofynnwyd i blant a oeddent erioed wedi ceisio fêpio unwaith neu ddwywaith, gyda'r gyfran yn dyblu mewn naw mlynedd, o 5.6% yn 2014 i 11.6% eleni.

Mae’n anghyfreithlon gwerthu fêps i unrhyw un o dan 18 oed ond mae cyfryngau cymdeithasol yn dangos negeseuon gan bobl ifanc yn eu harddegau yn trafod blasau fel lemonêd pinc, mefus, banana a mango.

Mae arbenigwyr wedi rhybuddio fod cenhedlaeth newydd o fêps tafladwy o’r enw “puff bars” - sy’n cynnwys nicotin - wedi dod yn boblogaidd iawn ymysg yr ifanc.

Cynhaliwyd yr arolwg diweddaraf o 2,656 o bobl ifanc gan YouGov ym mis Mawrth ac Ebrill ar gyfer elusen Ash.

Bydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ar fesurau i leihau nifer y plant sy’n cael mynediad i fêps, tra’n sicrhau y gall oedolion sydd am roi’r gorau i ysmygu ddefnyddio e-sigaréts o hyd.

'Hoffi'r blasau'

Dangosodd y data newydd na fu unrhyw newid sylweddol ers y llynedd yng nghyfran y plant sy’n ysmygu ar hyn o bryd (4.8% yn 2022 a 3.6% yn 2023).

Pan ofynnwyd iddynt pam eu bod yn fêpio, dywedodd 40% o bobl ifanc eu bod am roi cynnig arni, tra bod 19% yn eu defnyddio oherwydd eu bod eisiau ymuno ag eraill, a dywedodd 14% eu bod yn hoffi'r blasau.

Dywedodd bron i dri chwarter (73%) y bobl ifanc fod eu fêp cyntaf wedi cael ei roi iddynt, ond i blant sy'n fêpio ar hyn o bryd, dywedodd bron i dri chwarter (72%) eu bod fel arfer yn prynu eu fêp o siop gornel.

Mae mannau eraill lle mae plant yn prynu fêps yn cynnwys gorsafoedd petrol (9.4%) ac ar-lein (7.6%).

'Rhad a deinadol'

Dywedodd Deborah Arnott, prif weithredwr Ash: “Mae angen i ni atal plant rhag  arbrofi gyda fêps ac mae buddsoddiad y Llywodraeth mewn ymgyrch i werthu fêps yn anghyfreithlon dan oed yn gam cyntaf hanfodol.

“Ond ni fydd gorfodi ar ei ben ei hun yn gwneud digon heb reoleiddio llymach i fynd i’r afael â hyrwyddo’r cynhyrchion rhad a deniadol hyn sy’n gyfeillgar i blant.

“Mae arolwg ieuenctid Ash yn dangos y twf cyflym o ran hyrwyddo fêps yn y siop, gan ddefnyddio pecynnau arddangos lliw llachar, sy'n atgoffa rhywun o arddangosfeydd sigaréts o'r gorffennol.

“Mae’r dystiolaeth yn glir, mae angen i’r llywodraeth gymryd camau cryf i atal marchnata fêps i blant.”

Mae Geoff Worsley o Abergele wedi sefydlu deiseb yn galw am fwy o reoleiddio'r gwerthiant o fêps.

Dywedodd: “Mae rhieni fel fi ar hyd a lled y wlad yn galw ar y llywodraeth i weithredu i amddiffyn ein plant rhag anwedd yn ogystal ag ysmygu.

“Mae mwy o gyllid ar gyfer gorfodi yn gam cyntaf da ond nid yw’n ddigon. Mae fêpio yn fwy diogel ac yn well i ysmygwyr nag ysmygu, ond ni ddylid ei hyrwyddo i blant.

“Mae angen rheoleiddio llymach i atal ein plant rhag fêpio ac rydyn ni ei angen nawr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU: “Mae eisoes yn anghyfreithlon gwerthu fêps i blant ac rydym yn archwilio ffyrdd pellach o fynd i’r afael â phlant sy’n fêpio trwy ein galwad newydd am dystiolaeth.

“Yn ddiweddar, fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi ‘Adran gorfodi fêpio anghyfreithlon’ newydd – gyda chefnogaeth o £3 miliwn – i dynnu nwyddau anghyfreithlon oddi ar silffoedd a’u hatal rhag croesi ein ffiniau.”

Dywedodd llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, Daisy Cooper: “Mae fêps yn gymorth mawr i roi’r gorau i ysmygu ond mae ymdrechion i’w marchnata i blant yn niweidiol.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.