Davina McCall yn ennill gwobr genedlaethol gyda'i llyfr sy'n trafod y menopos

Mae Davina McCall wedi ennill gwobr am ei chyfrol sy’n trafod y menopos.
Fe enillodd y cyflwynydd a’i chyd-awdur Dr Naomi Potter llyfr y flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain gyda'r gyfrol Menopausing.
Yn sgil sylwadau am ddiffyg gwybodaeth feddygol ar y pwnc, bwriad y llyfr yw rhannu profiadau, gwyddoniaeth a chyngor ynglŷn â'r menopos, yn ôl y cyflwynydd 55 oed.
Cafodd y gyfrol ei chanmol gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys Krishnan Guru-Murthy, cyflwynydd newyddion Channel 4 News, yn ogystal â’r cyfrannydd radio, Vick Hope.
Wrth drafod Menopausing, dywedodd Krishnan Guru-Murthy: “Fe wnaeth y llyfr yma helpu i ddechrau sgwrs genedlaethol am y menopos.
“Roedd y bartneriaeth rhwng Davina McCall a Dr Naomi Potter yn ddigon clyfar i sicrhau llyfr awdurdodol a defnyddiol tra’i fod yn ddifyr am fater pwysig sy’n cael ei anwybyddu,” ychwanegodd.
Dywedodd Philip Jones, cadeirydd y beirniaid yng Ngwobrau Llyfrau Prydain: “Darllenwyr oedd yr enillwyr go iawn eleni, gyda theitlau amrywiol yn dangos rhinweddau rhyfeddol y diwydiant llyfrau, a hynny’n enwedig wrth gynnal sgyrsiau am iechyd meddwl, misoginistiaeth, rhywioldeb, rhywedd, y menopos a mwy."
Llun: Ian West/PA Wire.