Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro fore dydd Sadwrn

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A477 ger cyffordd A4075 ger mynegbost Nash, a ddigwyddodd tua 08:00 fore dydd Sadwrn.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur coch, oedd wedi bod yn teithio ar hyd yr A477 i gyfeiriad Penfro, a fan wen yn tynnu trelar, oedd wedi bod yn teithio ar hyd yr A4075 o Benfro, cyn ymuno â’r A477 i gyfeiriad Caerfyrddin.
Yn anffodus, bu farw dyn yn y fan a’r lle. Mae ei berthynas agosaf wedi cael gwybod. Nid yw adnabyddiaeth ffurfiol wedi digwydd eto ac ni chafodd neb arall eu hanafu.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r llu.
Llun: Google