Newyddion S4C

Heddlu

Carchar i ddyn o Ddinbych am droseddau rhyw

NS4C 10/05/2023

Mae dyn o Ddinbych yn dechrau ar ddedfryd o garchar am dair blynedd am ymddwyn yn anweddus yn gyhoeddus ac ymwneud â gweithgaredd rywiol, pan roedd plentyn yn bresennol.  

Ymddangosodd Robert Dilwyn Jones, 53, of Faes Y Dre yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Toni Sutton a oedd yn arwain yr ymchwiliad: “Rwy'n canmol dewrder y dioddefwyr yn yr achos hwn, wrth iddyn nhw sôn am yr hyn wnaeth Jones. 

“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn trin troseddau o'r natur hwn yn ddifrifol iawn, ac rydym yn benderfynol o sicrhau fod y rhai sy'n cyflawni troseddau rhywiol o'r fath yn cael eu dwyn o flaen eu gwell."  

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.