Dyn i wynebu achos llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dosbarthwr parseli gyda'i fan ei hun

Bydd dyn yn wynebu'r llys yn hwyrach eleni wedi ei gyhuddo o lofruddio dosbarthwr parseli gyda'i fan ei hun ar Ffordd y Gogledd, Caerdydd.
Fe wnaeth Christopher Elgifari, 31, ymddangos o flaen Llys y Goron yng Nghasnewydd ddydd Mercher wedi ei gyhuddo o lofruddio Mark Lang.
Bu farw Mark Lang, 54 oed o ardal Cyncoed yn Ysbyty Athrofaol Cymru bythefnos wedi iddo gael ei lusgo dan y fan ar 28 Mawrth.
Roedd yn dosbarthu parseli yn ardal Cathays pan gafodd ei fwrw gan ei fan ei hun am 12:49.
Yn dilyn marwolaeth Mr Lang, cafodd Elgifari ei gyhuddo o'i lofruddio.
Fe wnaeth Elgifari, sydd yn byw yng Nghwrt yr Esgid, Aberdâr, gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad yn y llys ddydd Mercher.
Dywedodd y barnwr Daniel Williams y bydd Elgifari yn wynebu achos llys a fydd yn para pythefnos i dair wythnos ar 25 Medi. Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar 24 Mai.
Fe fydd Elgifari yn cael ei gadw yn y ddalfa nes hynny.