Cyhoeddi stad o argyfwng yng Nghanada yn sgil tanau gwyllt

Mae talaith Alberta yng Nghanada wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn dilyn tanau gwyllt.
Mae tua 25,000 o bobl wedi gorfod gadael eu tai wrth i dros 100 o danau ymledu ar draws y dalaith.
Dywedodd llywydd y dalaith Danielle Smith fod gwanwyn cynnes, sych wedi creu'r amodau i danau gynnau yn rhwydd.
Mae nifer o dai i’r gorllewin o brifddinas y dalaith Edmonton wedi eu dinistrio.
Mae’r awdurdodau yn ceisio ymladd y tân gyda hofrenyddion a thanceri awyr.
Mae'r diwydiant cynhyrchu olew yn rhan allweddol o economi rhanbarth talaith Alberta ond ar hyn o bryd nid yw’r cyfleusterau hynny wedi eu bygwth.