Llofruddiaeth Daniel Morgan: Gorfod cyhoeddi adroddiad erbyn 16 Mehefin

Golwg 360

Bydd rhaid i Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth y DU, gyhoeddi’r adroddiad ar lofruddiaeth y Cymro Daniel Morgan erbyn 16 Mehefin.

Bu farw'r ditectif preifat mewn maes parcio tafarn yn Llundain yn 1987, ac mae ymchwiliad i'w farwolaeth, ag unrhyw gysylltiadau posib gyda heddweision, wedi cymryd wyth mlynedd i'w gwblhau.

Fe wnaeth y Farwnes O’Loan, sy’n cadeirio Panel Annibynnol Daniel Morgan, ofyn i’r Swyddfa Gartref sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi erbyn ganolMehefin er mwyn i’w deulu gael atebion o’r diwedd, meddai Golwg360.

Darllenwch y stori'n llawn yma.