Carchar am oes i yrrwr am lofruddio dynes ifanc o Bowys

Mae gyrrwr a laddodd dynes o Bowys ar ôl ddefnyddio’i gar fel ‘arf’ wedi ei garcharu am oes.
Bu farw Rebecca Steer, o Lanymynech, ar ôl i Stephen McHugh, 28, yrru ei gar tuag at gerddwyr mewn digwyddiad yng nghanol Croesoswallt, Sir Amwythig, yn oriau man bore ddydd Sul 9 Hydref y llynedd.
Derbyniodd McHugh ddedfryd o garchar am oes ac fe fydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 18 mlynedd dan glo.
Roedd Ms Steer, 22, yn croesi’r ffordd tu allan i siop tecawê, pan yrrodd McHugh ei gar Volvo lliw aur yn ei chyfeiriad, gan ei llusgo o dan ei gar.
Fe darodd cerbyd McHugh dri o bobol gan gynnwys dau ddyn gafodd eu “taro o’r neilltu” gan y car.
Roedd y gyrrwr o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ar y pryd ac nid oedd yn dal trwydded gyrru.
Roedd McHugh wedi gwadu llofruddio Rebecca Steer ond yn cyfaddef ei dynladdiad. Fe'i cafwyd yn euog o lofruddio ddydd Iau.
Roedd hefyd wedi cyfaddef i ymosod gan achosi anaf i Kyle Roberts, a gafodd ei daro gan ei gar hefyd, ond roedd wedi gwadu ceisio achosi niwed corfforol difrifol fwriadol iddo.
Yn ystod yr achos, fe ddywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Kevin Hegarty KC, fod McHugh, wedi stopio a “chyfnewid geiriau” gyda grŵp o bobl ger siop tecawê Grill Out.
Dywedodd Mr Hegarty wrth y llys: “Ar y foment honno roedd Rebecca Steer yn croesi Stryd Willow.
“Yn sydyn iawn, wrth iddi groesi, saethodd y Volvo am yn ôl. Fe’i methodd hi o drwch blewyn.”
'Anafiadau trychinebus'
Clywodd y rheithgor fod Ms Steer wedi llwyddo i ddod o ffordd llwybr y car a cherdded i'r palmant yr ochr arall i'r stryd.
Ychwanegodd Mr Hegarty: “Ar y foment honno trodd Mr McHugh y llyw i gyfeiriad y bobl ar y palmant ac yna fe yrrodd ymlaen i’r palmant tuag at y grŵp o bobl.
“Aeth ochr y car ymlaen at ymyl y palmant, ymlaen i’r llwybr troed, ac y ei flaen i yrru drwy’r grŵp.
“Rydyn ni’n dweud ei fod wedi defnyddio ei gar fel arf – fe ddefnyddiodd bŵer a phwysau’r car i daro’r grŵp.”
Ar ôl taro’r grŵp, fe aeth y cerbyd dros Ms Steer, gan achosi anafiadau mewnol “trychinebus” a thorri ei hasennau.
Ar ôl treulio wyth awr yn ystyried dros gyfnod o dri diwrnod, daeth mwyafrif y rheithgor i benderfyniad fod Mr McHugh, o Neuadd y Parc, Sir Amwythig, yn euog o lofruddiaeth ac achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.