Newyddion S4C

Peiriant tan

Loriau ar dân yn iard Mansel Davies yn Sir Benfro

NS4C 04/05/2023

Mae diffoddwyr tân wedi eu galw i dân yn iard loris Mansell Davies yn Sir Benfro.

Fe gafodd criwiau tân o orsafoedd Crymych, Aberteifi, Hendy-gwyn, Doc Penfro, Castell Newydd Emlyn ac Aberdaugleddau eu galw i’r digwyddiad yn Llanfyrnach, ger Crymych, am 12.03 ddydd Iau, yn dilyn adroddiadau o dân a mwg trwchus.

Fe ddefnyddwyd ddwy beipen ddŵr, offer anadlu a chasgen ddŵr i ddiffodd y tân.

Mae’r diffoddwyr tân dal ar leoliad.

Mae Cyngor Sir Benfro wedi cynghori trigolion lleol i gadw eu ffenestri ar gau rhag y mwg.

Dywedodd lefarydd ar ran y cyngor: "Mae diffoddwyr tân yn bresennol mewn tân mawr ar iard Mansel Davies & Son yn Llanfyrnach, gogledd Sir Benfro.

"Cynghorir trigolion sy'n byw yn yr ardal i gadw drysau a ffenestri ar gau."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.