Newyddion S4C

Ysgol Comins Coch

Pum ysgol gynradd yng Ngheredigion yn symud tuag at fod yn rhai cyfrwng Cymraeg

NS4C 03/05/2023

Mae pum ysgol gynradd yng Ngheredigion wedi dechrau ar y broses o newid i fod yn rhai iaith Gymraeg.

Bydd proses ymgynghori lawn yn dechrau cyn hir i ystyried newid cyfrwng iaith yn y Cyfnod Sylfaen yn y pum ysgol.

Yr ysgolion dan sylw yw:

  • Comins Coch
  • Llwyn yr Eos
  • Padarn Sant
  • Plascrug
  • Ceinewydd.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau eu bod nhw’n gwireddu cynllun ieithyddol y sir.

“Trwy gyflwyno a gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, rydym am roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a galluogi pobl o bob oed i ddysgu, sef un o amcanion corfforaethol y Cyngor dros y bum mlynedd nesaf,” meddai.

“Mae’r cynnig hefyd am gefnogi dyhead Cyngor Sir Ceredigion i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg drwy ei Strategaeth Iaith, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Y nod felly yw addysgu disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd, a’u galluogi i gymryd rhan lawn yn y gymuned ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.”

Ymgynghori

O ganlyniad, yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ddydd Mawrth 2 Mai, cytunwyd i ddechrau ar y broses ymgynghori i newid cyfrwng iaith yn y Cyfnod Sylfaen yn ysgolion.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad Cabinet y Cyngor i gymeradwyo camau nesaf Cynllun Gweithredu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2023.

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 yn cynnwys saith o ddeilliannau i gryfhau’r Gymraeg.

Un o’r rheiny yw creu mwy o gyfleoedd i blant o bob oed i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn bennaf.

Disgwylir i'r dogfennau ymgynghori ar newid cyfrwng iaith y pum ysgol dan sylw gael eu cyhoeddi yn nhymor yr hydref eleni.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.