Caryl Lewis yn cyrraedd rhestr fer gwobrau llenyddol am ei nofel i blant
Caryl Lewis yn cyrraedd rhestr fer gwobrau llenyddol am ei nofel i blant

Mae’r awdur Caryl Lewis wedi cyrraedd rhestr fer gwobr ysgrifennu genedlaethol am ei nofel Saesneg gyntaf i blant.
Mae Seed, sydd eisoes wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg, ar restr fer gwobr Branford Boase 2023 am gyfraniad rhagorol i blant.
Yn enw adnabyddus ym myd llenyddiaeth Cymru, mae Caryl wedi derbyn canmoliaeth am sawl un o’i nofelau gan gynnwys Martha, Jac a Sianco, enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2005, sy’n cael ei chydnabod fel un o glasuron modern ein hoes.
Yn dilyn ei llwyddiant yn y Gymraeg roedd Caryl yn awyddus i greu llenyddiaeth i godi gobaith plant wedi pandemig Covid-19.
Dywedodd Caryl wrth Newyddion S4C: “Odd yn brofiad hyfryd i ‘sgrifennu stori i godi plant ar ôl y pandemig, i roi’r byd yn ôl i blant.
“Wi’n teimlo bod nhw wedi colli gafael chydig bach. Sgrifennu yn y Saesneg am y tro cyntaf hefyd, a cheisio cynrychioli awduron sy’n sgwennu yn y ddwy iaith.
“O’n i’n teimlo falle bod hi’n bwysig, gan fod dwy iaith gyda Cymru, yn naturiol o’n i’n teimlo weithiau yr awduron sy’n sgrifennu’r iaith Gymraeg ychydig bach yn anweledig o’r tu allan.
“Felly o’n i’n teimlo odd hi’n bwysig bod ni’n magu’r cynrychiolaeth 'ma a bod ni’n dod â sylw at bob math o awduron Cymraeg a rheiny sy’n sgwennu yn y ddwy iaith hefyd,” meddai.
'Dathlu partneriaeth’
Mae Caryl yn disgrifio gwbor Branford Boase fel gwobr “arbennig”, gan ei bod yn dathlu’r bartneriaeth rhwng awdur a golygydd.
Sarah Hughes o gwmni cyhoeddi Macmillan oedd golygydd Caryl ar nofel Seed.
"Mae cyhoeddi llyfr yn gwaith tîm a mae ‘na nifer o bobl tu ôl i’r lleni sy’n gweithio’n galed iawn i gael y gorau allan o’r stori, a’r syniadau a’r themâu sy' yn y llyfr.
“A’r person mwyaf pwysig o ran yr awdur yw’r golygydd a mae cael rhywun sy’n deall eich ffordd chi o feddwl, eich arddull chi…rhoi’r nodiadau i chi, bod yn ffeind wrth roi nodiadau i chi, a helpu cael y gorau allan ohonoch chi – mae hwnna’n amhrisiadwy,” meddai’r awdur.
“Fues i’n lwcus tu hwnt i gael Sarah Hughes o Macmillan sy’n brofiadol tu hwnt.”
Wedi’i ddisgrifio gan y beirniaid fel “llyfr llawn rhyfeddodau” mae’r nofel yn dilyn stori bachgen ifanc o’r enw Marty sydd yn cael ei fwlio, a’i fam sy’n dioddef o salwch iechyd meddwl.
Ar ôl derbyn hedyn hudol gan ei dad-cu ar ei ben-blwydd mae bywyd Marty yn newid am byth.
Mae Caryl yn un o wyth sydd ar y rhestr fer eleni.
Bydd enillydd gwobr Branford Boase 2023 yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ar 11 Gorffennaf.
Llun: Naomi Campbell