Newyddion S4C

Kate

William a Kate yn abseilio clogwyn yn y Bannau

NS4C 27/04/2023

Mae William a Kate wedi abseilio clogwyn yn y Bannau Brycheiniog.

Roedd Tywysog a Thywysoges Cymru yn cwrdd â Thîm Achub Mynydd Canol Bannau Brycheiniog.

Mae William yn noddwr Achub Mynydd Cymru a Lloegr a bu’n beilot gyda chriw RAF y Fali am dair blynedd.

Image
William a Kate

Treuliodd amser yn gwrando ar hanesion y tîm a oedd yn achub bywydau mewn ardal sy’n cynnwys Pen y Fan.

Cyn mynd oddi ar ochor y clogwyn clywyd ei wraig yn dweud wrtho: “Nid ras yw hi.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.