Newyddion S4C

Cyfeillion y Ddaear Cymru

‘Diwedd y diwydiant glo yng Nghymru’? Gwrthod cais i ymestyn cloddio yn Ffos-y-Fran

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio am “ddiwedd y diwydiant glo yng Nghymru” wrth i gais i ymestyn cyfnod o gloddio ar safle glo-brig mwyaf y DU gael ei wrthod.

Penderfynodd cynghorwyr wrthod cais i’r barhau i gloddio ar y safle ger Merthyr Tydful nes Mawrth 2024.

Roedd perchnogion y safle, Merthyr (South Wales) Ltd, wedi dadlau fod angen y glo ar y diwydiant haearn a’r diwydiant twristiaeth trenau stêm a fod ganddyn nhw rôl o bwysigrwydd cenedlaethol.

Ond dywedodd aelodau cyngor sir Merthyr Tudful, a bleidleisiodd yn unfrydol i wrthod y cais, ei fod yn “amser newid”.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Jonesa fod y “byd wedi symud ymlaen” a’i fod yn bryd mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Roedd ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dweud eu bod nhw'n ystyried dwyn achos llys yn erbyn y cyngor a Llywodraeth Cymru os oedd y cloddio yn parhau.

Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Anthony Slaughter ei fod yn bryd dweud hwyl fawr wrth gloddio glo yng Nghymru.

“Mae'n hen bryd ac mae'n rhaid i hyn nodi diwedd cloddio glo yng Nghymru,” meddai.

“Roedd yn ymgyrch ysbrydoliedig dan arweiniad y gymuned.”

'Cymysg'

Dywedodd Cyfeillion y Ddaear Cymru fod “glo yn rhan o’n treftadaeth nid ein dyfodol”.

"Rhyddhad mawr - falch iawn fod y penderfyniad wedi dod gan Gyngor Merthyr ac yn unfrydol yn erbyn parhau i gloddio ar Ffos y Fran," meddai Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear Cymru wrth Newyddion S4C.

"Ond mae yn ddarlun cymysg - mae dal angen stopio'r cloddio glo ac mae angen gwella'r safle hefyd. Felly mae llawer o gwestiynau eto i'w hateb, ond rhyddhad mawr ac mae hyn yn profi fod gyda ni bolisi cryf yng Nghymru yn erbyn glo."

Llun gan Cyfeillion y Ddaear Cymru.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.