Newyddion S4C

Defaid

Lansio strategaeth gyntaf Cymru ar gyfer troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad

Mae strategaeth gyntaf erioed Cymru i ddelio â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad yn cael ei lansio ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Iau.

Gall troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad fod ar sawl ffurf; dwyn offer amaethyddol, troseddau difrifol yn erbyn da byw a dinistrio bywyd gwyllt a'u cynefinoedd. Amcangyfrifwyd bod lladradau cefn gwlad yn unig wedi costio £1.3m yn 2021.

Bydd y strategaeth ar y cyd, rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru.

Yn 2021, penodwyd Rob Taylor yn Gydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, y rôl gyntaf o'i fath yn y DU, a bydd yn arwain ar hwyluso'r strategaeth.

Dywedodd Rob Taylor: "Gall troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt gael effaith ddinistriol, gan effeithio ar gymunedau cefn gwlad, ffermwyr, bywyd gwyllt yn ogystal â chynefinoedd a'n treftadaeth.

"Bydd lansio'r strategaeth gyntaf erioed hon yng Nghymru i integreiddio troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, yn hanfodol wrth ddod â Llywodraeth Cymru, heddluoedd a phartneriaid ynghyd ochr yn ochr â'm rôl fel cydgysylltydd i fynd i'r afael â throseddau o'r fath."

Ymhlith yr amcanion maent yn gobeithio lleihau troseddau a diogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt, darparu hyfforddiant a chyfleoedd a hefyd defnyddio technoleg ac arloesi i ddiogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae lansio'r strategaeth hon yn gam mawr ymlaen wrth fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yng Nghymru. Mae gweithio mewn partneriaeth yn thema allweddol a dim ond drwy weithio gyda'n gilydd tuag at ein nod cyffredin y gallwn lwyddo.

"Mae'r strategaeth yn gosod gweledigaeth glir i Gymru sydd wedi ei theilwra i anghenion ein gwlad. Gyda'r Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt fel pwynt cyswllt canolog rwy'n hyderus y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau cefn gwlad."

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Dr Richard Lewis: “Mae’r strategaeth hon yn strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Heddlu. Nod y strategaeth arwyddocaol a holistaidd hon yw gwella plismona ar draws cefn gwlad Cymru a hefyd fynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae ein cymunedau gwledig yn eu hwynebu."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.