Newyddion S4C

Yr Arlywydd Biden yn galw ar bleidiau Gogledd Iwerddon i ddychwelyd i rannu grym

Yr Arlywydd Biden yn galw ar bleidiau Gogledd Iwerddon i ddychwelyd i rannu grym

NS4C 12/04/2023

Mewn araith yn Belfast, mae Arlywydd America, Joe Biden wedi annog pleidiau Gogledd Iwerddon i rannu grym unwaith yn rhagor yn y cynulliad yn Stormont 

Mae'r arlywydd ar daith pedwar diwrnod i Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, chwarter canrif ers Cytundeb Heddwch Gwener y Groglith.

Fe laniodd Mr Biden yn Nulyn brynhawn dydd Mercher ar ôl treulio'r diwrnod yn Belfast, ble fu'n cynnal trafodaethau gyda Phrif Weinidog y DU, Rishi Sunak, ac arweinwyr gwleidyddol Gogledd Iwerddon.

Yna, wrth annerch torf fechan ym Mhrifysgol Ulster yn y prynhawn, dywedodd fod gwarchod heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn "rhywbeth sy'n dod ag America ynghyd."

Mae plaid unoliaethol y DUP wedi gwrthod cydweithio gyda'r sefydliad datganoledig mewn protest yn erbyn Protocol Gogledd Iwerddon sydd yn creu ffin ar gyfer nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU.

Mae'r sefyllfa wedi gadael y rhanbarth heb lywodraeth nac unrhyw weithgareddau yn y cynulliad yn Stormont ers mis Chwefror y llynedd, a fydd Mr Biden ddim yn ymweld â Stormont yn ystod ei daith

Cytundeb hanesyddol

Roedd cyn Aelod Seneddol Torfaen,  yr Arglwydd Murphy yn weinidog yn Swyddfa Gogledd Iwerddon pan gafodd Cytundeb Heddwch Gwener y Groglith ei arwyddo 25 mlynedd yn ôl.  

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd Paul Murphy: “Erbyn 17:30 ar 10 Ebrill 1998 fe wnaethom ni lwyddo i gael cytundeb ar yr holl bethau oedd mor ddadleuol ac a oedd wedi achosi rhwyg yng Ngogledd Iwerddon am flynyddoedd.

“Yn y cytundeb mae’n bosib newid y rheolau fel mae amser yn mynd yn ei blaen, felly dwi’n meddwl bod achos i edrych arno eto fel nad ydym yn gweld llywodraethau yn dymchwel. Ond ni allwch ei wneud oni bai bod y ddwy ochr yn cytuno."

Cyn glanio yn Belfast nos Fawrth, dywedodd Mr Biden mai ‘sicrhau bod cytundebau Iwerddon a Chytundeb Windsor yn gweithio, a diogelu heddwch’ oedd ei brif flaenoriaeth yn ystod y daith.

Gwreiddiau teulu Biden

Bydd Mr Biden yn cymryd rhan mewn sawl digwyddiad yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl iddo deithio i Sir Louth, sef man geni un o’i gyndeidiau, James Finnegan.

Yna bydd yn ymweld â Chastell Carlingford cyn aros yn Nulyn nos Fercher.

Ddydd Iau, bydd yn cwrdd ag Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon, Michael D Higgins, ym Mharc Phoenix, fydd ar gau i’r cyhoedd am 24 awr ar gyfer yr ymweliad.

Yna, fe fydd Joe Biden yn cwrdd â’r Taoiseach Leo Varadkar, cyn annerch senedd Gweriniaeth Iwerddon a mynd i wledd yng Nghastell Dulyn nos Iau.

Bydd yr ymweliad yn dod i ben ddydd Gwener yn Sir Mayo, pan fydd Mr Biden yn ymgysylltu gydag aelodau o’i deulu a siarad yn gyhoeddus ym mhrif eglwys Sant Muredach ym Mallina.

Mesurau diogelwch llym

Cafodd mesurau diogelwch eu cyflwyno yng nghanol dinas Belfast ddydd Mercher, gyda nifer o ffyrdd ar gau tan y prynhawn.    

Mae rhybuddion eisoes wedi eu cyhoeddi am ymosodiadau terfysgol posibl, gyda gwasanaeth cudd-wybodaeth MI5 yn codi lefel y bygythiad.

Cafodd pedair dyfais ffrwydrol eu darganfod mewn mynwent yn ninas Derry ddydd Mawrth.

Mae’r heddlu yn credu bod grwpiau gweriniaethol anghydffurfiol wedi bwriadu defnyddio’r dyfeisiadau mewn ymosodiad ar swyddogion yn ystod gorymdaith yn y ddinas ddydd Llun.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.