Newyddion S4C

Boris Johnson yn derbyn ei fod wedi camarwain ASau 'drwy ddamwain' ar bwnc 'Partygate'

Boris Johnson

Mae Boris Johnson wedi derbyn ei fod wedi camarwain Aelodau Seneddol yn achos ‘Partygate’ ond wedi dweud mai drwy ddamwain oedd hynny.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig at Bwyllgor Breintiau Tŷ’r Cyffredin dywedodd nad oedd “wedi bwriadu camarwain y Tŷ”.

Cyhoeddwyd dogfen 52 tudalen yn amlinellu ei amddiffyniad ddydd Mawrth, ddiwrnod cyn iddo wynebu grŵp trawsbleidiol o ASau a fydd yn ei groesholi ar y pwnc.

Mynnodd Boris Johnson ei fod wedi cywiro ei hun ar y “cyfle gyntaf posib”.

“Rydw i’n derbyn fod Tŷ’r Cyffredin wedi ei gamarwain gan fy natganiadau fod y rheolau wedi eu dilyn yn gyfan gwbl yn Rhif 10,” meddai.

“Ond pan gafodd y datganiadau eu gwneud fe wnaethpwyd nhw ar sail yr hyn oeddwn i wirioneddol yn ei gredu oedd yn wir ar y pryd.

“Drwy ddamwain wnes i gamarwain y Tŷ ar Ragfyr 1 2021, Rhagfyr 8 2021 ac unrhyw ddyddiad arall.

“Fyddwn i ddim yn breuddwydio gwneud hynny'n fwriadol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.