Vladimir Putin yn ymweld â dinas Mariupol yn Wcráin

Mae arlywydd Rwsia wedi ymweld â dinas Mariupol yn rhanbarth Donetsk yn ne orllewin Wcráin.
Dyma'r tro cyntaf i Vladimir Putin ymweld â thiriogaeth Wcráin ers dechrau’r rhyfel yno dros flwyddyn yn ôl.
Yn ôl adroddiadau gan gyfryngau gwladol Rwsia roedd Mr Putin wedi gwneud “ymweliad gweithredol” â’r ddinas gafodd ei chipio gan luoedd Rwsia ym mis Medi'r llynedd.
Roedd Mariupol yn dyst i frwydro ffyrnig am fisoedd wrth i luoedd Rwsia gesio cipio tiriogaeth, ac fe gafodd ei difrodi'n sylweddol yn ystod yr ymladd.
Bu'r ddinas dan warchae am dri mis, gyda lluoedd Wcráin yn parhau i frwydro i'r diwedd yng nghrombil gwaith dur Azovstal.
Y gred yw bod hanner adeiladau'r ddinas wedi eu dinistrio yn ystod y brwydro.
Fe wnaeth fideo a ddarlledwyd ar gyfryngau Rwsia ddangos Mr Putin yn cyrraedd y ddinas mewn hofrennydd, cyn ymweld â neuadd gyngerdd yn y ddinas.
Ddydd Sadwrn fe wnaeth Mr Putin ymweld â’r Crimea, naw mlynedd ers i Rwsia gipio’r rhanbarth oddi wrth Wcráin.
Ddydd Gwener fe wnaeth y Llys Troseddol Rhyngwladol gyhoeddi gwarant i arestio Mr Putin, mewn cysylltiad â throseddau rhyfel yn Wcráin.
Mae awgrym fod ymweliad Mr Putin â Mariupol yn ymgais i anfon neges herfeiddiol i'r gymuned ryngwladol yn dilyn cyhoeddi'r gwarant yn ei erbyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Rwsia, Maria Zakharova, nad oes "unrhyw bwys" i'r warantau'r llys.